Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / WLGA yn croesawu’r wybodaeth am ddidoli ysgolion fesul band
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

WLGA yn croesawu’r wybodaeth am ddidoli ysgolion fesul band

08 Rhagfyr 2011

Mae byd llywodraeth leol wedi ymateb yn gadarnhaol i’r wybodaeth gyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw ynglŷn â didoli ysgolion uwchradd fesul band. Diben y drefn newydd yw gwella safonau a deilliannau yn rhan o’r camau y bydd pob awdurdod lleol yn eu cymryd er cymorth i’w ysgolion. Cafodd yr ysgolion wybod am eu bandiau ddoe ac mae’r wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru heddiw.

Meddai’r Cyng. Peter Fox (Sir Fynwy), Llefarydd WLGA dros Addysg:

“Nid creu tabl cynghrair yw bwriad bandiau ysgolion uwchradd, ond annog pawb i gydweithio er lles plant a phobl ifanc. Fe fydd yr wybodaeth yn fan cychwyn i’r trafodaethau rhwng pob ysgol a’i hawdurdod lleol ynglŷn â sut mae gwella dysgu ac addysgu yn yr ysgol honno.

Trwy eu consortia, mae’r awdurdodau lleol wedi paratoi cynlluniau gweithredu yn barod ar gyfer yr ysgolion sy’n tangyflawni. Er enghraifft, yn y de-ddwyrain mae gan 20 ysgol uwchradd gynlluniau gweithredu penodol mae’u costau wedi’u nodi ac yn y de-orllewin mae 11% o’r ysgolion uwchradd a chynradd yn cael cymorth o’r fath. O fis Medi 2012, bydd hynny’n digwydd trwy wasanaethau rhanbarthol ar gyfer gwella ysgolion. Fe fydd bandiau’r ysgolion yn cynnig rhan hanfodol o’r wybodaeth y bydd ei heisiau ar y gwasanaethau rhanbarthol i barhau â’r gwaith hwnnw ymhlith yr ysgolion.”

Mae trefn bandiau’r ysgolion uwchradd wedi’i seilio ar ddadansoddiad o ddata am gyflawniad yr ysgolion ynghyd â data ychwanegol am amddifadedd a ffactorau economaidd gymdeithasol dros gyfnod penodol. O’u defnyddio nhw ynghyd â’r wybodaeth ansoddol am ysgolion, bydd y bandiau’n asesiad gwerthfawr o’r hyn mae pob ysgol yn ei gyflawni.

Ychwanegodd y Cyng. Fox:

“Bydd bandiau’r ysgolion yn rhoi i ddisgyblion, rhieni a chynhalwyr wybodaeth hanfodol am eu hysgolion hefyd, gan eu galluogi i ymgysylltu â’r ysgolion yn ystyrlon – a dyna rywbeth i’w groesawu.”

Mae’r wybodaeth am fandiau’r ysgolion ar: http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/schoolshome/raisingstandards/schoolbanding/?lang=en

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet



< yn ôl