WLGA yn croesawu cyhoeddiad am Fesur 'Gwasanaethau Cymdeithasol'
24 Ionawr 2012
Croesawodd y Cynghorydd Meryl Gravell (Sir Gâr), Llefarydd WLGA dros Ofal Cymdeithasol, ddatganiad y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol heddiw ynglŷn â Mesur 'Gwasanaethau Cymdeithasol'. Meddai:
"Rydyn ni'n croesawu'n fawr ddatganiad y Dirprwy Weinidog heddiw. Ein barn ni yw y bydd y mesur newydd o gymorth mawr ynglŷn â thrawsffurfio gwasanaethau cymdeithasol Cymru. Dyma gadarnhau'r ymrwymiad amlinellon ni yn ein hymateb yn ddiweddar i strategaeth 'Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu' fydd ar waith dros y 10 mlynedd nesaf. Edrychwn ni ymlaen at gydweithio â phartneriaid i gynnal gwasanaethau cymdeithasol er lles pobl Cymru."
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet


