Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / WLGA yn croesawu Adroddiad Mathias
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

WLGA yn croesawu Adroddiad Mathias

23 Mehefin 2011

Mae WLGA wedi croesawu adroddiad Adolygiad Mathias, adolygiad annibynnol o raglen yr adolygiadau etholiadol yng Nghymru.

Meddai'r Cyng. John Davies (Sir Benfro), Arweinydd WLGA:

“Bydd angen inni ddarllen yr adroddiad yn fanwl, ond mae'n cynnwys nifer o argymhellion ddylai helpu i wella'r broses adolygu etholiadol yn sylweddol yn y dyfodol. Mae Glyn Mathias a'i dîm wedi edrych ar y broses honno mewn modd trylwyr a chynhwysfawr gan nodi rhai cyfleoedd i ddysgu a datblygu trwy bolisïau ac arferion yn Lloegr a'r Alban.

Er gwaethaf ein pryderon ni am y broses adolygu etholiadol hyd yma, mae WLGA wedi ceisio cydweithio'n adeiladol â Chomisiwn y Ffiniau. Yn sgîl cyhoeddiad y Gweinidog y prynhawn yma, fe hoffen ni gwrdd â'r comisiynwyr cyfamserol cyn gynted ag y bo modd i drafod sut gall yr awdurdodau lleol a Chomisiwn y Ffiniau gydweithio i gynnal adolygiadau etholiadol yn effeithiol ar gyfer etholiadau 2016.”

Nodiadau i olygyddion

Mae adroddiad Adolygiad Mathias ar wefan Llywodraeth Cymru yma.

Mae'r dystiolaeth gyflwynodd WLGA i Adolygiad Mathias yma.

Mae rhagor o wybodaeth gan:



< yn ôl