WLGA welcomes amendments to Police Reform and Social Responsibility Bill, but further changes needed
01 Gorffennaf 2011
Mae WLGA yn croesawu'r newyddion bod Llywodraeth San Steffan wedi newid Mesur 'Diwygio'r Heddluoedd a Hybu Cyfrifoldeb Cymdeithasol' fel y bydd yn haws i baneli dros faterion plismona a throseddu wrthod cynigion comisiynwyr dros blismona a throseddu ynglŷn â threth y cyngor ac yn cael archwilio gwaith comisiynwyr a phrif gwnstabliaid ynglŷn â mynd i'r afael â throseddu. Er hynny, mai WLGA o'r farn bod angen newid y mesur ymhellach.
Meddai'r Cyng. Des Hillman (Blaenau Gwent), Llefarydd WLGA dros Ddiogelwch Cymunedol:
“Er ein bod yn croesawu cyfaddawd Llywodraeth San Steffan, dydyn ni ddim o'r farn bod y drefn newydd ar gyfer llywodraethu heddluoedd a gofalu eu bod yn atebol yn briodol i Gymru. Hyd yn oed yn sgîl y newidiadau yma, bydd y paneli dros blismona a throseddu sydd i fod i oruchwylio'r comisiynwyr yn wan heb allu hwyluso'r 'rhwystrau a'r gwrthbwysau' cadarn yn ôl disgwyl San Steffan.
O ystyried penderfyniad na welon ni ei debyg o'r blaen yn y Cynulliad eleni o ran gwrthod caniatáu i Lywodraeth San Steffan sefydlu paneli ym myd llywodraeth leol Cymru, mae sefyllfa a threfniadau gweithredu'r paneli yn aneglur ac mae'r dewisiadau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yn anfoddhaol. Ein barn ni yw y bydd y ffordd newydd yn gwanhau'r cyswllt rhwng yr awdurdodau lleol a threfn llywodraethu'r heddluoedd – pryder rydyn ni wedi'i fynegi ers gweld y cynigion gwreiddiol. Mae'r awdurdodau lleol a'r heddluoedd yn cydweithio'n dda iawn i fynd i'r afael â throseddu, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Felly, mae'n hanfodol na fydd unrhyw drefn lywodraethu newydd yn torri nac yn tanseilio'r cyswllt hwnnw nac yn amharu ar y gwaith sy'n mynd rhagddo trwy bartneriaethau diogelwch cymunedol.”
Ychwanegodd:
“Mae WLGA yn croesawu'r newidiadau ddeilliodd o broses archwilio'r mesur yn Nhŷ'r Arglwyddi, yn arbennig dileu'r cymal am sefydlu comisiynwyr. Mae byd llywodraeth leol Cymru yn gwrthwynebu'r drefn mae Llywodraeth San Steffan yn ei chynnig am nad ydyn ni o'r farn y bydd yn well na'r awdurdodau heddlu sydd gyda ni ar hyn o bryd. Gofynnwn ni i Lywodraeth San Steffan gynnal cynlluniau arbrofol ynglŷn â chyflwyno comisiynwyr dros blismona a throseddu fel y bydd y budd-ddalwyr a'r bobl yn hyderus y bydd y trefniadau llywodraethu newydd yn addas ac na fyddan nhw'n creu unrhyw fiwrocratiaeth ddiangen.”
Diwedd


