02 Chwefror 2010
Ymateb WLGA i gyhoeddiad Llywodraeth y Cynulliad y bydd £2.75 miliwn ychwanegol i lenwi tyllau yn y ffyrdd
Meddai Prif Weithredwr WLGA, Steve Thomas:
“Mae ffyrdd ledled Cymru mewn cyflwr gwael o achos y tywydd garw yn ddiweddar a bydd yr awdurdodau lleol yn wynebu costau sylweddol am eu hatgyweirio. Gan fod y cynghorau dan bwysau ariannol enfawr yn barod, bydd hynny'n arwain at anawsterau mawr iddyn nhw.”
“Felly, mae WLGA yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y Cynulliad y bydd £2.75 miliwn ychwanegol i lenwi tyllau yn y ffyrdd. Mae'r awdurdodau lleol yn gweithio drwy'r amser eisoes i wneud yr atgyweiriadau hanfodol a bydd yr arian yma'n ychwanegu at y grant sydd wedi'i roi iddyn nhw i'w galluogi i barhau â'r gwaith er diogelwch y cyhoedd.”
“Er bod Llywodraeth y Cynulliad yn dweud y bydd yr arian yn ychwanegol at y £5 miliwn mae wedi'u rhoi yn barod ar ffurf Grant Cynnal a Chadw'r Ffyrdd Lleol, rhaid tynnu sylw at y ffaith mai £15 miliwn oedd cyfanswm y grant hwnnw y llynedd a'i fod wedi'i ostwng o £10 miliwn yng nghyllideb Llywodraeth y Cynulliad eleni.”
“Mae amcangyfrif y bydd yr awdurdodau lleol yn gorfod talu miliynau o bunnoedd i lenwi pob twll yn y ffyrdd. Felly, er bod WLGA yn croesawu'r arian ychwanegol, dim ond dechrau lleddfu'r costau enfawr mae'r cynghorau'n eu hwynebu wnaiff y dyraniad hwnnw, a bydd rhaid gwneud rhagor i'w helpu i atgyweirio'r ffyrdd.”
“Y broblem ehangach yw cyflwr gwael rhwydwaith y ffyrdd lleol. Mae'r arfer o lenwi tyllau yn ôl yr angen dros y blynyddoedd wedi arwain at broblemau sylweddol ac mae'r Asphalt Industry Alliance yn amcangyfrif bellach y bydd eisiau 15.6 mlynedd i orffen yr atgyweiriadau sydd wedi ymgronni yng Nghymru a bod diffyg ariannol o £3.3 miliwn ar gyfartaledd ym mhob awdurdod lleol. Yn anffodus, gan fod pwysau sylweddol ar gyllidebau'r awdurdodau lleol, mae'n fwyfwy annhebygol y byddan nhw'n gallu adnewyddu wynebau'r ffyrdd.”
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
Grant Cynnal a Chadw'r Ffyrdd Lleol
Cyflwynodd Llywodraeth y Cynulliad y grant hwn yn 2007/8 dros dair blynedd. Fe wnaeth hynny ar y cyd â Chymdeithas y Syrfewyr Sirol a'r nod oedd helpu'r awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r atgyweiriadau oedd wedi pentyrru. Mae'r grant wedi'i ddyrannu yn ôl fformiwla'r Asesiad o Wariant Safonol ac un o'r prif amodau yw y dylai pob awdurdod barhau i neilltuo'r un faint ar gyfer cynnal a chadw'r ffyrdd ag a wariodd i'r diben hwnnw dros y blynyddoedd cynt.
Asphalt Industry Alliance
Mae'r Asphalt Industry Alliance wedi'i sefydlu gan y Mineral Products Association a'r Refined Bitumen Association fel y gall y ddwy gymdeithas rannu gwybodaeth ac adnoddau. Cafodd ei sefydlu yn 2000 i godi ymwybyddiaeth o ddiwydiant asffalt a manteision asffalt.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet
