Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / Ymateb WLGA i'r ymgynghori am blismona
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Ymateb WLGA i'r ymgynghori am blismona

26 Gorffennaf 2010

Gan ymateb i bapur ymgynghori gyhoeddodd y Swyddfa Gartref heddiw, 'Policing in the 21st Century', meddai'r Cynghorydd Lindsay Whittle (Caerffili), Llefarydd WLGA dros Ddiogelwch Cymunedol:

“Mae'r cynnig yma'n un amhriodol fydd yn amharu ar un o bartneriaethau mwyaf llwyddiannus Cymru ers datganoli – rhwng yr awdurdodau lleol a'r heddluoedd. Gallai fod yn niweidiol iawn gyflwyno'r syniad o gomisiynwyr heddlu a materion troseddu heb ystyried y goblygiadau'n llawn. Dyma syniad roedd y llywodraeth flaenorol yn San Steffan wedi'i wrthod, a does dim galw amdano ymhlith y bobl, chwaith.
Rydyn ni wedi nodi y byddai comisiynydd o'r fath yn cael pennu archebiant ei heddlu. Ar ben hynny, mae'n bosibl y bydd yn perthyn i un o'r pleidiau eithafol ac yn anwybyddu rhwystrau a gwrthbwysau'r drefn bresennol.”
Byddai comisiynydd dros yr heddlu a materion troseddu yn:

• chwalu perthynas strategol yr awdurdodau lleol â'r heddluoedd;
• tanseilio rôl y cynghorwyr, sy'n atebol i'r etholwyr;
• rhoi cyfle i ymgeiswyr sy'n ymgyrchu dros un achos neu blaid eithafol gael eu hethol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Whittle:

“Yr hyn sy'n bwysig i'r bobl yw gweld plismyn yn eu bröydd, a'n barn ni yw nad oes angen trwsio rhywbeth sy'n gweithio'n dda. Yn y sefyllfa ariannol anodd yma, bydd ailwampio cyfansoddiadol costus o'r fath yn tynnu'n sylw oddi ar y problemau, ac mae WLGA yn gofyn i Lywodraeth y Cynulliad ac Awdurdodau Heddlu Cymru wrthwynebu'r syniad.

Dyw'r papur ymgynghori ddim yn manylu'n ddigonol ar gynnig Llywodraeth San Steffan ynglŷn â chomisiynwyr etholedig. Mewn amgylchiadau ariannol anodd, rhaid holi ai dyma'r adeg briodol i newid trefniadau trwy etholiadau ychwanegol. Yn ôl amcangyfrif yr LGA, byddai cost yr etholiadau cyfwerth â 700 o blismyn.

Er mwyn gofalu bod yr heddlu'n atebol i bobl pob bro, dylai'r cynghorau fod wrth wraidd unrhyw drefn newydd. Mae cynghorwyr yn cadw llygad ar ddiogelwch cymunedol yn barod ac, yn ogystal â bod yn atebol i'w hetholwyr, maen nhw'n atebol i'w cynghorau nhw trwy'r pwyllgorau craffu. Y ffordd fwyaf cost-effeithiol o ddatrys y broblem yw goruchwylio'r heddlu trwy strwythurau'r cyngor. Dim ond ychydig o newidiadau statudol y byddai eu hangen i sefydlu trefn o'r fath fyddai'n osgoi dyblygu ac yn hwyluso arbedion, hefyd.”

Diwedd

Nodiadau i olygyddion

Mae papur ymgynghori'r Swyddfa Gartref, ‘Policing in the 21st century: reconnecting police and the people’ ar: http://www.homeoffice.gov.uk/media-centre/news/tell-us-about-reforming-police

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet (029 2046 8673 neu lucy.sweet@wlga.gov.uk)

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet



< yn ôl