Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / Ymateb WLGA i gyllideb Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer 2010-11
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Ymateb WLGA i gyllideb Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer 2010-11

15 Gorffennaf 2010

Mae WLGA yn croesawu'n fawr y ffordd y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ymdopi â llai o gyfalaf yn sgîl cyhoeddiad Llywodraeth San Steffan ar 24ain Mai y byddai'n gostwng cyllidebau ar gyfer 2010-11 o £6.2 biliwn ac mai £162 miliwn fyddai 'cyfran Cymru' (cyllid = £113 miliwn, cyfalaf = £49 miliwn).

Meddai Arweinydd WLGA, y Cynghorydd John Davies:

“Rydyn ni'n cefnogi'r penderfyniad i beidio â gohirio'r toriadau a defnyddio amryw ffyrdd o leddfu'r effeithiau. I'r perwyl hwnnw, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn torri gwariant cyfalaf cyn lleied ag y bo modd yn ei gyllideb gan y bydd gwariant o'r fath yn gostwng yn fawr dros y blynyddoedd sydd i ddod. Dyma gam allweddol i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen mewn meysydd megis llywodraeth leol. Gobeithio na fydd y cyhoeddiad am ddyraniadau cyllid 2010-11 fis Tachwedd yn cynnwys torri cyllidebau'r cynghorau.

Bu rhaid i Jane Hutt AC, Gweinidog Cyllidebau a Busnes, wynebu nifer o ddewisiadau anodd ac mae hi wedi ceisio diogelu Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif sy'n ymwneud â buddsoddi mewn adeiladau fydd yn ysgogi'n pobl ifanc, yn cynnig cyfleusterau technegol sy'n addas i'r 21ain ganrif ac yn gallu diwallu anghenion cyfnewidiol dysgwyr yn ôl galw'r economi.”

Meddai Llefarydd WLGA dros Faterion Ariannol, y Cynghorydd Rodney Berman:

“Mae'n amlwg y bydd rhagor o gyhoeddiadau ymestynnol yn sgîl adolygu'r gwariant yn San Steffan fis Hydref. Bydd yr adolygiad hwnnw'n manylu ar y toriadau yng ngwariant y wladwriaeth i wneud iawn am y diffyg enfawr. Yn y sefyllfa sydd ohoni, rhaid bod yn ymarferol ynglŷn â'r gwasanaethau y bydd modd eu disgwyl am ei bod yn anochel y bydd awdurdodau'n wynebu nifer o ddewisiadau anodd o ran blaenoriaethau. Felly, bydd angen trafodaethau trylwyr a gonest gyda Llywodraeth y Cynulliad i ofalu bod effaith y toriadau'n gyson ledled y sector cyhoeddus.”

Mae rhagor o wybodaeth gan:

Lucy Sweet 029 2046 8678 neu lucy.sweet@wlga.gov.uk

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet



< yn ôl