WLGA ac ADSS yn croesawu canfyddiadau’r adolygiad o gyfiawnder i deuluoedd
03 Tachwedd 2011
Mae WLGA ac ADSS Cymru wedi croesawu heddiw adroddiad terfynol yr adolygiad o drefn y cyfiawnder i deuluoedd, ynghyd â’r argymhellion ynglŷn â’i gwella.
Mae’r ddau sefydliad wedi cydweithio’n agos â’r panel adolygu o’r dechrau ac fe roeson nhw dystiolaeth ar y cyd iddo fis Mehefin. Yn sgîl yr adroddiad heddiw, yr hyn sy’n bwysig i fyd llywodraeth leol yw rhoi argymhellion y panel ar waith yn ddiymdroi.
Meddai’r Cyng. Meryl Gravell OBE (Sir Gâr), Llefarydd WLGA dros Ofal Cymdeithasol:
“Mae’n hen bryd inni newid trefn y cyfiawnder i deuluoedd ac mae WLGA yn cefnogi’n llwyr argymhellion yr adroddiad heddiw, sy’n adlewyrchu llais a hawliau’r plentyn yn ogystal â chydnabod rôl bwysig y gwasanaethau cymdeithasol.
Edrychwn ni ymlaen bellach at ymateb prydlon o San Steffan a Bae Caerdydd fel ei gilydd i ddweud sut dylen ni roi’r argymhellion ar waith a pha adnoddau ychwanegol fydd ar gael i’n helpu ni i gydymffurfio â newidiadau mor ysgubol.”
Meddai Parry Davies, Llywydd ADSS Cymru:
“Dyma synnwyr cyffredin ac ymateb cymesur i’r her o foderneiddio trefn y cyfiawnder i deuluoedd. Bydd proffesiynolion sy’n ymwneud â lles plant yn croesawu’r argymhellion ac yn disgwyl ymateb yr adrannau gwladol yn eiddgar.
Edrychwn ni ymlaen at gydio’n llawn yn y rhaglen uchelgeisiol yma gan gydnabod y modd y gall gwasanaethau cymdeithasol, ynghyd â chyrff eraill, wella byd ein plant.”
Dyma brif argymhellion yr adroddiad:
• Prosesu achosion sy’n ymwneud â gofal cyn pen chwe mis i gwtogi’n fawr ar yr oedi.
• Ailwampio trefn y cyfiawnder i deuluoedd fel y gall asiantaethau a phroffesiynolion gydweithio’n fwy cydlynus er lles plant a’u teuluoedd.
• Creu gwasanaeth cyfiawnder i deuluoedd i ofalu bod asiantaethau a phroffesiynolion yn cydweithio i wella’r drefn er lles plant a’u teuluoedd.
• Penodi rhagor o farnwyr sy’n arbenigo yn y gyfraith ynglŷn â theuluoedd i wrando ar achosion o’r dechrau i’r diwedd fel y bydd cysondeb a hyder yn y drefn.
• Symleiddio trefn y llysoedd fel y bydd yn haws i bobl sy’n eu defnyddio wybod ble dylen nhw fynd.
• Canolbwyntio ar les y plant a rhoi gwell hyfforddiant i’r proffesiynolion i ofalu bod y plant yn cael mynegi eu barn.
• Newid y gyfraith ynglŷn â diogelu plant a dod â nhw o dan ofal fel y bydd modd prosesu achosion yn gyflymach er lles plant.
• Pennu terfyn amser (chwe mis) ym mhob achos ar wahân i amgylchiadau eithriadol.
• Dibynnu’n llai ar dystion/adroddiadau arbenigol diangen.
• Gofyn i’r llysoedd ganolbwyntio ar y pwnc craidd, sef penderfynu a ddylai’r plentyn fynd o dan ofal neu beidio.
• Cynnig rhagor o gymodi i osgoi mynd i’r llys yn ddiangen.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet


