Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / Adolygiad o Wariant Cymru (Steve Thomas)
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Adolygiad o Wariant Cymru (Steve Thomas)

06 Medi 2010

Mae cwymp y banciau wedi gadael llanast ar ei ôl ac ymddengys mai gwariant y sector cyhoeddus sy’n dwyn baich y gost.
Nododd y gyllideb frys ym Mehefin 2010 gynlluniau’r llywodraeth i leihau gwariant y sector cyhoeddus o £99bn erbyn 2015-16. Pan gaiff yr ymrwymiad i amddiffyn gwariant ar iechyd a chymorth tramor ei ystyried, mae hyn yn gyfwerth â gostyngiad o 25% ar gyfartaledd mewn termau gwirioneddol dros y pedair blynedd nesaf.
Mae llywodraeth leol yn aros gydag anniddigrwydd ar gyfer yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant a chyllideb ddilynol y Cynulliad ym mis Tachwedd. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cynllunio rhagdybiaethau o 3% o ostyngiad ar wariant refeniw a 10% ar wariant cyfalaf.
I Lywodraeth Leol, gallai hyn olygu gostyngiad mewn refeniw o ryw £140m bob blwyddyn a gallai gwariant cyfalaf ostwng o £50m y flwyddyn. Mae cynghorau wedi canfod bod cael dau ben llinyn ynghyd yn her sylweddol wrth i setliadau gynyddu.
Oherwydd cyfuniad o gynnydd yn y galw am wasanaethau, disgwyliadau uwch a chynnydd mewn costau, bydd toriadau o’r maint hyn yn cael effaith sylweddol ar y gwasanaethau y mae cynghorau yn eu darparu. Mae’r gostyngiadau mewn cyfalaf yn arbennig yn peri pryder.
Bydd gostyngiadau o’r maint hyn yn anochel yn arwain at golli swyddi ar draws y sector cyhoeddus. Mae Llywodraeth Leol yng Nghymru eisoes wedi cyhoeddi torri rhwng 3,000 a 4,000 o swyddi dros y tair i bum mlynedd nesaf sydd wedi effeithio ar wariant yn yr economi leol.
Cyfran uwch
Mae hyn yn drafferthus gan fod cyfran uwch o boblogaeth Cymru sy’n gweithio (26.6%) yn gweithio’n uniongyrchol i un o’r gwasanaethau cyhoeddus o’i gymharu â chyfartaledd y DU o 21.1%.
Amlygodd adroddiad y llynedd gan y Centre for Cities fod "Abertawe, Hastings, Ipswich, Barnsley, Newcastle, Lerpwl, Blackpool a Chasnewydd yn arbennig o agored i niwed" am eu bod yn dibynnu’n helaeth ar swyddi mewn meysydd o’r sector cyhoeddus yr ystyrir eu bod “mewn perygl” o doriadau.
Mae llawer o ardaloedd gwledig hefyd yn ddibynnol iawn ar swyddi’r sector cyhoeddus: er enghraifft Ceredigion, Sir Benfro a Gwynedd sydd â’r canrannau uchaf o boblogaethau o oed gwaith sydd yn gweithio yn y sector cyhoeddus.
Mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario dros £4.3bn y flwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau gyda’r sector preifat neu wirfoddol ac mae trafodaethau eisoes yn cael eu cynnal ynglŷn â sut y gellir datblygu modelau gwasanaeth newydd gyda’r sectorau hyn er mwyn cynnal y ddarpariaeth.
Y canlyniad yw bod Cymru o bosibl yn fwy agored i ddirwasgiad dwbl na gweddill y DU. Er gwaetha’r ffaith bod gwariant y pen ar ddatblygu economaidd yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o’r DU (cyfwerth ag £80 ar gyfer pob person yng Nghymru), mae gwerth ychwanegol crynswth Cymru y pen o’r boblogaeth wedi syrthio ymhellach y tu ôl i gyfartaledd y DU o 80% yn 2002 i 74% yn 2008.
Mae hyn yn rhoi Cymru mewn sefyllfa fwy anodd i ddelio â’r cyfyngiadau ariannol sydd i ddod.
Bwlch cynyddol
Yn ystod y cyfnod hwn rydym wedi gweld bwlch cynyddol mewn gwariant fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr ac mae hyn yn ei dro’n cael ei adlewyrchu yn y bwlch cynyddol mewn cyrhaeddiad rhwng y ddwy wlad.
Mae ymrwymiad Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, i ddiogelu gwariant ar addysg yng Nghymru wedi ei gyfyngu i sicrhau bod y gostyngiadau y mae’n eu hwynebu 1% yn llai na gwasanaethau eraill. Barn CLlLC yw bod addysg yn allweddol i leihau tlodi a gwella potensial economaidd Cymru.
Er mai bwriad LlCC yw diogelu ei pholisïau “cyffredinol”, fel presgripsiynau am ddim a thocynnau teithio rhatach, mae newidiadau eraill mewn meysydd fel budd-dal tai wedi arwain y Sefydliad Astudiaethau Cyllid i awgrymu y bydd toriadau cyllideb a gostyngiadau gwasanaethau Mehefin 2010 yn cael effaith anghymesur ar y rheiny sydd fwyaf agored i niwed.
Gellir cyflawni llawer trwy wella effeithlonrwydd a chynyddu cydweithredu rhwng sefydliadau. Mae defnyddio pŵer prynu cyfunol y sector cyhoeddus yng Nghymru eisoes wedi cyflawni arbedion sylweddol – dros £7m (yn cynnwys £2m ar offer TG).
Eir â hyn ymhellach yn uniongyrchol mewn sefydliadau a thrwy Fwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi Llywodraeth y Cynulliad o dan arweiniad Jane Hutt.
Mae’r bwrdd hefyd yn archwilio’r hyn y gellir ei gyflawni’n rhanbarthol a sut y gallwn newid ein systemau i leihau biwrocratiaeth a phrosesau. Yn Lloegr, er enghraifft, mae arolygu beichus yn cael ei leihau ac mae’r Comisiwn Archwilio’n cael ei ddiddymu.
Dengys enghreifftiau yng Nghanada a Sweden ei bod yn bosibl lleihau diffyg mawr mewn gwariant cyhoeddus ond cyflawnwyd hyn trwy sicrhau nad oedd unrhyw wasanaeth wedi ei “eithrio” o doriadau posibl.
Mae neilltuo cyllidebau gwasanaeth mwy yn anochel yn golygu y bydd gwasanaethau sydd yn “fwyd a diod” i awdurdodau lleol, sef casglu gwastraff, goleuo a glanhau strydoedd, parciau a hamdden yn canfod bod y cyfnod nesaf yn arbennig o heriol.
Mantra cyfleus
Felly yr hyn sydd ei angen arnom yng Nghymru yw dadl aeddfed sy’n archwilio’r holl opsiynau posibl – pa wasanaethau a pholisïau sydd fwyaf hanfodol i ddinasyddion a chymunedau Cymru? Nid nawr yw’r amser i lynu wrth benderfyniadau polisi sydd, er yn ganmoladwy iawn, wedi eu llunio mewn amgylchedd ariannol gwahanol iawn.
Mae’n rhaid i’r sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru gydweithio a rhannu’r boen – mae angen cydlyniaeth gyffredinol wrth ddylunio a gweithredu rhaglen toriadau ariannol Cymru.
Mae’r rhain oll yn ddewisiadau anodd i wleidyddion yn arbennig wrth i etholiadau’r cynulliad agosáu ond y gwirionedd llwm yw bod y mesurau y mae llywodraeth glymblaid y DU yn eu cynnig yn golygu’r cyfnod parhaol hiraf a mwyaf llym o doriadau mewn gwariant gwasanaethau cyhoeddus ers dyddiau dogni.
Efallai fod gwneud mwy gyda llai yn fantra cyfleus i wleidyddion cenedlaethol, ond mewn gwirionedd, mae’r gostyngiadau a ragwelir o ran ansawdd a maint gwasanaethau cyhoeddus yn golygu bod gwneud llai gyda llai yn fwy agos ati.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Mari Thomas



< yn ôl