Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / Welsh pupils celebrate excellent GCSE results, narrowing top grade gap with rest of UK
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Welsh pupils celebrate excellent GCSE results, narrowing top grade gap with rest of UK

25 Awst 2011

Hoffai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru longyfarch disgyblion y wlad heddiw am eu canlyniadau ardderchog eto yn arholiadau TGAU. Mae canran y disgyblion enillodd raddau uchel yn nes at y ffigurau ar gyfer gweddill y DG bellach.
Meddai’r Cyng. Peter Fox (Sir Fynwy), Llefarydd WLGA dros Ddysgu Gydol Oes:
“Mae’r canlyniadau heddiw yn dangos unwaith eto fod safonau’n gwella a hoffwn i longyfarch y disgyblion gafodd eu canlyniadau nhw heddiw. Dyma dystiolaeth o waith dyfal y disgyblion, yr athrawon, yr ysgolion a’r awdurdodau lleol ledled y wlad.
Mae’n arbennig o dda gweld bod Cymru yn nes at weddill y deyrnas ynglŷn â’r graddau uchaf, a gobeithio y bydd y duedd honno’n parhau.”

Diwedd

Nodiadau i olygyddion

Cymru
• Canran y rhai lwyddodd: 98.7% (yr un fath â’r llynedd)
• Canran y rhai enillodd raddau A* - C: 66.5% (o’i chymharu â 66.4% y llynedd)

Y Deyrnas Gyfunol
• Canran y rhai lwyddodd: 98.8% (o’i chymharu â 98.7% y llynedd)
• Canran y rhai enillodd raddau A* - C: 69.8% (o’i chymharu â 69.1% y llynedd)

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet



< yn ôl