Canlyniadau rhagorol disgyblion Cymru yn arholiadau Safon A a Bagloriaeth Cymru
19 Awst 2010
Hoffai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru longyfarch disgyblion y wlad heddiw am ragori eto yn arholiadau Safon A a Bagloriaeth Cymru.
Meddai'r Cyng. Peter Fox (Sir Fynwy), Llefarydd WLGA dros Ddysgu Gydol Oes:
“Mae'r canlyniadau heddiw yn dystiolaeth o ymroddiad a gallu disgyblion Cymru ac yn adlewyrchu ymroddiad a chyfraniad arbenigwyr addysg yn ysgolion, awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach y wlad.
Mae'n arbennig o dda gweld bod nifer y disgyblion gyrhaeddodd Lefel Uwch Bagloriaeth Cymru bron wedi dyblu eleni gan fod 81% o ddisgyblion wedi llwyddo yn y rhaglen honno. Mae hynny'n dangos pa mor ddyfal mae'r disgyblion a'r arbenigwyr addysg fel ei gilydd wedi gweithio.
Mae awdurdodau lleol Cymru yn cynnal trefn addysg ardderchog i ddisgyblion ein gwlad ac mae'r canlyniadau heddiw yn dangos yn eglur ein bod wedi ymroi i helpu disgyblion i gyflawni eu llawn dwf a chynnig cyfleoedd iddyn nhw fanteisio ar addysg bellach.”
Nodiadau i olygyddion:
• Ar y cyfan, gostyngodd ychydig ganran y disgyblion enillodd raddau A-E yng Nghymru eleni (97.1% o'i chymharu â 97.6% yn 2009).
• Cynyddodd canran y disgyblion enillodd raddau A yn arholiadau Safon A o 0.2% (24.1% o'r cyfanswm bellach).
• Gostyngodd ychydig ganran y disgyblion i gyd enillodd raddau A (24.4% o'i chymharu â 25.0% y llynedd).
• Cyflawnodd 4,360 o ddisgyblion Lefel Uwch Bagloriaeth Cymru.
• Mae ystadegau cynhwysfawr ar gyfer gwledydd y DG i gyd ar wefan y Joint Council for Qualification (JCQ): www.jcq.org.uk
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet


