Canlyniadau TGAU yn parhau i wella
24 Awst 2010
Hoffai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru longyfarch disgyblion Cymru heddiw am ragori yn arholiadau TGAU. Dyma'r canlyniadau gorau erioed gan fod 98.7% o ddisgyblion wedi ennill gradd A*-G ym mhob pwnc.
Meddai'r Cynghorydd Peter Fox (Sir Fynwy), Llefarydd WLGA dros Ddysgu Gydol Oes:
“Mae'r canlyniadau heddiw yn dangos bod safonau'n parhau i wella yng Nghymru ac fe hoffwn i longyfarch pob disgybl gafodd ganlyniadau heddiw. Mae'n amlwg bod y disgyblion, yr athrawon a'r awdurdodau lleol wedi gweithio'n ddyfal iawn.”
“Mae'n dda gyda fi weld bod y canlyniadau wedi gwella ynglŷn â gwyddoniaeth a mathemateg achos bod y pynciau hynny'n hanfodol i economi Cymru. Mae hyn yn argoeli'n dda.”
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
Cymru
• Canran y rhai lwyddodd – 98.7% (Yn well na'r llynedd)
• Canran y graddau A*-C – 66.4% (Yn well na'r llynedd)
Y Deyrnas Gyfunol
• Canran y rhai lwyddodd – 98.7% (Yn well na'r llynedd)
• Canran y graddau A*-C – 69.1% (Yn well na'r llynedd)
Mae rhagor o wybodaeth gan Lucy Sweet:
029 2046 8673 neu lucy.sweet@wlga.gov.uk
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet


