Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / Tesco yn ymuno â chynllun WLGA ynglŷn ag anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Tesco yn ymuno â chynllun WLGA ynglŷn ag anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd

09 Medi 2011

Yr wythnos hon, cyflwynodd WLGA gynllun arloesol o'r enw 'Ymwybodol o Anhwylder y Sbectrwm Awtistaidd'. Diben y cynllun yw tynnu sylw at yr anhwylder ledled y wlad ac mae bwriad i ofyn i siopau'r stryd fawr, cwmnïau masnachol, gwasanaethau statudol a chyflogwyr gymryd rhan ynddo. Tesco yw'r cwmni cyntaf i ymuno â'r cynllun ac fe fu hyfforddiant i staff cangen Risca Tesco Extra yno ddoe.


Hanfod y cynllun yw cynnig gwybodaeth ar wefan i helpu pobl i ddeall anhwylder y sbectrwm awtistaidd ac, yna, eu gwahodd i lenwi holiadur i weld faint maen nhw wedi'i ddysgu. Trwy gofnodi manylion y rhai atebodd y cwestiynau'n gywir, bydd y sustem yn gallu rhoi adborth am y cwmnïau a'r asiantaethau mae llawer o'u staff yn ymwybodol o anhwylder y sbectrwm awtistaidd. Ail gam y cynllun fydd rhoi Statws 'Ymwybodol o Anhwylder y Sbectrwm Awtistaidd' i'r rhai sy'n cymryd rhan ynddo.

Meddai'r Cyng. Meryl Gravell OBE (Sir Gâr), Llefarydd WLGA dros Ofal Cymdeithasol a Iechyd:

"Mae amcangyfrif bod anhwylder y sbectrwm awtistaidd gan un ym mhob 100 o bobl ac mae'r rhai sydd ag anhwylder y sbectrwm awtistaidd yn defnyddio gwasanaethau a chwmnïau o bob math yng Nghymru. Felly, mae'n hanfodol i staff y gwasanaethau a'r cwmnïau hynny fod yn ymwybodol o'r anhwylder.

Mae'n dda gyda ni fod Tesco wedi cytuno i ymuno â'r cynllun, a'n gobaith ni yw y bydd llawer o gwmnïau a gwasanaethau eraill yn gwneud hynny."

Meddai Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog dros Blant a’r Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Y cyntaf o’i fath yn y DG yw Cynllun Gweithredu Strategol Cymru ar gyfer Anhwylder y Sbectrwm Awtistaidd. Mae’r cynllun yn amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio diwallu anghenion y rhai sydd ag anhwylder y sbectrwm awtistaidd, eu teuluoedd nhw a’u cynhalwyr.

Mae Llywodraeth Cymru am ofalu, ymhlith pethau eraill, fod y gwasanaethau ar gyfer y rhai sydd ag anhwylder y sbectrwm awtistaidd yn rhai teg a chyfartal ledled y wlad, a bod amgyffred o’r anhwylder yn cael ei ehangu. Rydyn ni wedi rhoi arian i Asiantaeth Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol i’w galluogi i gynnal y fenter yma.

Gan fod cangen Casnewydd cwmni Tesco wedi ymuno â chynllun arloesol WLGA, ‘Ymwybodol o Anhwylder y Sbectrwm Awtistaidd’, bydd modd cyflawni’n nod ni ynglŷn â chodi ymwybyddiaeth o’r anhwylder ledled y wlad. Mae Tesco yn arwain trwy esiampl, a gobeithio a bydd hynny’n ysgogi sefydliadau a chwmnïau eraill i ymuno â’r cynllun.”

Llywodraeth Cymru sy'n ariannu'r cynllun yn rhan o wefan i broffesiynolion ynglŷn ag anhwylder y sbectrwm awtistaidd. Dyma'r linc: www.ASDinfoWales.co.uk/ASDaware

Nodiadau i olygyddion
Mae'r cynllun wedi'i baratoi yn sgîl Cynllun Gweithredu Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer Anhwylder y Sbectrwm Awtistaidd a gafodd ei gyflwyno yn 2008: http://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/autisticspectrumdisorderplan/?lang=en

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet



< yn ôl