Strategaeth cwnsela yn yr ysgolion wedi'i disgrifio'n 'llwyddiant ysgubol’
04 Tachwedd 2011
Mae adroddiad gwerthuso annibynnol am gwnsela yn yr ysgolion wedi tynnu sylw at effaith gadarnhaol y gwasanaeth ar gyrhaeddiad, presenoldeb ac ymddygiad disgyblion. Dywedodd un o'r ysgolheigion fu'n ymwneud â'r gwerthuso, yr Athro Mick Cooper, Pennaeth Cwnsela Prifysgol Ystrad Clud, fod y strategaeth yn llwyddiant ysgubol.
Mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cwnsela yn yr ysgolion, sydd ar waith er mis Ebrill 2008, wedi'i chloriannu gan gyfungorff ymchwil o dan arweiniad Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP). Fe gyhoeddodd ei adroddiad terfynol ar 3ydd Tachwedd.
Meddai'r Cyng. Peter Fox (Sir Fynwy), Llefarydd WLGA dros Addysg:
“Mae canfyddiadau'r gwerthusiad yma o gwnsela yn yr ysgolion yn galonogol iawn ac yn dangos bod yr awdurdodau lleol, yr athrawon a'r cwnsleriaid yn fodlon ar y strategaeth.
Er iechyd a lles teimladol pobl ifanc Cymru, mae'n bwysig bod gwasanaethau cwnsela ar gael iddyn nhw pan fo angen. Er mai cwnsela yn yr ysgolion yw'r enw, mae cwnsela yn y gymuned mewn lleoedd megis clybiau ieuenctid a meddygfeydd hefyd, fel y bydd ar gael i bobl ifanc sydd wedi gadael addysg neu'n cael eu haddysgu gartref. Yn aml, arnyn nhw mae'r angen mwyaf. Mae WLGA yn croesawu argymhellion yr adroddiad ynglŷn â sut i wella'r gwasanaeth eto fyth yn y dyfodol.”
Mae adroddiad terfynol BACP ar:
http://wales.gov.uk/about/aboutresearch/social/latestresearch/CounselStrategyReport/?lang=en&ts=4
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet


