Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / Cysylltiadau economaidd Fforwm Partneriaeth Ranbarthol y De-orllewin â Tsieina
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Cysylltiadau economaidd Fforwm Partneriaeth Ranbarthol y De-orllewin â Tsieina

15 Mawrth 2010

Mae Fforwm Partneriaeth Ranbarthol y De-orllewin yn helpu Prifysgol Abertawe i groesawu cynrychiolwyr Talaith Anhui, Tsieina, i'r de-orllewin heddiw. Yn ystod eu cyfarfodydd blaenorol, mae cynrychiolwyr y brifysgol a'r dalaith wedi nodi bod cyfle i feithrin cysylltiadau economaidd trwy gydweithio rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Anhui. Bydd yr ymweliad heddiw yn rhoi blas ar yr ardal i gynrychiolwyr Anhui.

Bydd Steve Phillips, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, yn cwrdd â'r cynrychiolwyr yn ystod eu hymweliad. Meddai:

“Mae'n dda gyda fi y bydda i'n cwrdd â chynrychiolwyr Talaith Anhui tra byddan nhw yma.

Mae perthynas Talaith Anhui â rhanbarthau megis Maryland (yn yr Unol Daleithiau) a Niedersachsen (yn yr Almaen) wedi bod yn fuddiol iawn o ran buddsoddi, datblygu'r economi ac, yn arbennig, rhannu technoleg.”

Bydd Mark James, Prif Weithredwr Cyngor Sir Gâr, yn cwrdd â'r cynrychiolwyr, hefyd:

“Mae'n gyffrous iawn bod Talaith Anhui a De-orllewin Cymru ar fin sefydlu cysylltiadau ym maes datblygu economaidd gan y gallai cysylltiadau o'r fath helpu i rannu technoleg rhwng y ddau ranbarth ac arwain at gyfleoedd economaidd pwysig.”

Meddai'r Athro Iwan Davies, Dirprwy Ganghellor Cysylltiadau Rhyngwladol a Materion Allanol Prifysgol Abertawe:

“Rôl Prifysgol Abertawe yw hybu economi gwybodaeth. Dyw gwybodaeth ddim yn gaeth i ffiniau ac, felly, mae'n bwysig cydweithio'n rhyngwladol i ddyfeisio syniadau arloesol a ffyrdd newydd o weithio rhwng pob cyfandir.

Rwy'n siwr y bydd y cynrychiolwyr yn mwynhau'r cyfle i gael cip ar y de-orllewin ac y bydd yr ymweliad heddiw yn gam pwysig ynglŷn â meithrin cysylltiadau pwysig rhwng y ddau ranbarth.”

Mae 65 miliwn o bobl yn byw yn Anhui. Mae'r dalaith yn meithrin cysylltiadau tramor ers dros 30 mlynedd ac, erbyn hyn, mae 67 o ddinasoedd mewn 40 gwlad dros y byd wedi'u gefeillio â dinasoedd yno. Heddiw, bydd cynrychiolwyr y dalaith yn cwrdd ag Arglwydd Faer Abertawe, yn ogystal â chynrychiolwyr Prifysgol Abertawe ac amryw gyrff yn y de-orllewin gan gynnwys Sir Benfro. Yn ystod y dydd, byddan nhw'n ymweld â Sefydliad Gwyddorau Bywyd Prifysgol Abertawe ac yn mynd i Gastell-nedd Port Talbot a Sir Gâr.


Diwedd

Nodiadau i olygyddion

Talaith Anhui

Mae 65 miliwn o bobl yn byw yn Anhui sy'n un o daleithiau mwyaf blaengar Tsieina o ran ei thwf. Yn 2008, roedd masnach rhwng y dalaith a'r DG gwerth dros £180 miliwn ac mae'n debygol o gynyddu.

Fforwm Partneriaeth Ranbarthol y De-orllewin

Mae 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac mae 4 bwrdd rhanbarthol yn eu helpu i weithio ar y cyd. Mae Fforwm Partneriaeth Ranbarthol y De-orllewin yn dod â Chyngor Sir Gâr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Benfro a Dinas a Sir Abertawe at ei gilydd i ddibenion cydweithio.


Mae rhagor o wybodaeth gan:

Lucy Sweet: 029 2046 8678 neu lucy.sweet@wlga.gov.uk

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet



< yn ôl