Siom i’r awdurdodau lleol yn sgîl gostwng grantiau cludiant
18 Ionawr 2012
Meddai llefarydd ar ran WLGA:
“Mae awdurdodau lleol Cymru wedi’u siomi yn sgîl cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddoe y bydd yn gostwng y grant i gwmnïau sy’n cynnal gwasanaethau bysiau a Grant y Gwasanaethau Cludiant Lleol. Er bod hynny wedi’i ddisgwyl, doedd neb wedi rhagweld y byddai mor llym, ac mae’r awdurdodau lleol yn rhybuddio bellach y bydd effaith fawr ar wasanaethau, yn ôl pob tebyg.
Mae’r awdurdodau lleol wedi’u siomi’n fawr am fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod am y toriadau ar fyr rybudd fel na allen nhw ddarparu ar eu cyfer wrth bennu faint sydd i’w wario yn 2012-13. Mae 18 mis wedi’u rhoi i gwmnïau bysiau a chynghorau Lloegr i baratoi ar gyfer gostwng o 20% ar ôl dechrau mis Ebrill, o’u cymharu â chynghorau Cymru fydd yn gorfod ymdopi â gostwng o 25% ymhen dim ond tair mis.
Mae WLGA wedi cynnal trafodaethau cynhyrchiol gyda Llywodraeth Cymru am fentrau benthyg i wella cyflwr y ffyrdd, ond mae’n bwysig na fydd toriadau mewn meysydd eraill yn tanseilio’r cynnydd hwnnw.”
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet


