Rhybudd WLGA: ‘Talcen caled o ran arian Undeb Ewrop’
20 Gorffennaf 2010
Mae siroedd y dwyrain yn wynebu talcen caled ynglŷn â pharhau â threfniadau ariannu presennol Undeb Ewrop ar ôl 2013, yn ôl WLGA.
Bydd Swyddfa Materion Ewrop WLGA ym Mrwsel yn lobïo'n ddyfal dros barhau â'r ariannu presennol (gwerth tua £280 miliwn i'r rhanbarth, gan gynnwys arian cyfatebol) sy'n hanfodol i greu swyddi a datblygu'r economi.
Meddai'r Cyng. Chris Holley, Llefarydd WLGA dros Faterion Ewrop ac Adfywio:
“Mae'r siroedd dwyreiniol wedi elwa'n fawr ar yr arian mae Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop wedi'i roi iddyn nhw i'w helpu i fod yn rhanbarth cystadleuol a chreu swyddi. Mae'r arian hwnnw'n hanfodol o ran swyddi, ffyniant a datblygu economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.
Gan fod llai o arian i gyllidebau, mae aelodau o Senedd Ewrop a chyrff eraill yn ein rhybuddio ei bod yn bosibl na fydd arian ar gael i'r dibenion yma yn ystod cyfnod ariannu nesaf Undeb Ewrop. Byddai hynny'n amharu'n fawr ar ymdrechion siroedd y dwyrain i adfywio rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad, meithrin medrau, creu swyddi a gostwng nifer y bobl nad ydyn nhw'n cyfrannu at yr economi yn sgîl yr argyfwng ariannol yn ddiweddar.
Felly, mae Swyddfa Materion Ewrop WLGA ym Mrwsel yn lobïo dros barhau â'r trefniadau ariannu presennol sy'n helpu rhanbarthau i gystadlu yn y farchnad a chreu swyddi. Yn ogystal â llywio cylch lobïo sy'n cynrychioli rhanbarthau eraill o'r DG, mae staff y swyddfa'n rhan o fenter lobïo ledled Ewrop i ddangos bod yr arian yn bwysig i ranbarthau i'w helpu i fod yn gystadleuol a bod angen parhau â'r ariannu presennol ar ôl 2013.
Man cychwyn y fenter, dan arweiniad Swyddfa Ranbarthol Awstria Isaf, fydd seminar a chynhadledd yn ystod Wythnos 'Diwrnodau Agored' Pwyllgor y Rhanbarthau ym Mrwsel rhwng 4ydd a 7fed Hydref.”
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
• Dyma'r cynghorau dwyreiniol: Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir Powys, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg.
• Bydd Pwyllgor Rhanbarthau Undeb Ewrop yn cynnal diwrnodau agored dros wythnos bob blwyddyn i hyrwyddo dinasoedd a rhanbarthau. Bydd Wythnos Diwrnodau Agored 2010 ym Mrwsel rhwng 4ydd a 7fed Hydref.
• Yn ystod cyfnod ariannu presennol Cronfeydd Strwythurol Undeb Ewrop (2007–2013), bydd y siroedd dwyreiniol yn cael dros £110 miliwn i'w helpu i gystadlu'n rhanbarthol a chreu swyddi. Ynghyd ag arian cyfatebol o'r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, tua £280 miliwn yw gwerth yr ariannu dros saith mlynedd. Mae trafodaethau cychwynnol am y cyfnod ariannu nesaf (2014–2020) wedi dechrau yn barod.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet (029 2046 8673 neu lucy.sweet@wlga.gov.uk)
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet


