Rydych chi yma: Hafan / Newyddion / Newyddion / Rhybudd WLGA: Peidiwch â gadael cefn gwlad Cymru i ddioddef o achos yr agendor digidol
 

Rhybudd WLGA: Peidiwch â gadael cefn gwlad Cymru i ddioddef o achos yr agendor digidol

04 Rhagfyr 2009

Yn wahanol i'r trefi, mae perygl y bydd sawl rhan o gefn gwlad Cymru ar ei hôl hi o dipyn mewn byd digidol lle mae mwy a mwy o ddinasyddion a chwmnïau'n dibynnu ar wasanaethau band eang.

Mae adroddiad pwysig gyhoeddodd WLGA heddiw, 'Band Eang yng Nghymru Wledig', yn tynnu sylw at y ffaith nad yw llawer o'r cyfryw wasanaethau ar gael yng nghefn gwlad ac yn trafod effaith hynny ar gymunedau a chwmnïau yno.

Mae WLGA yn rhybuddio bod lles cymdeithasol ac economaidd y cymunedau hynny dan fygythiad difrifol heb gamau i ofalu bod cefn gwlad Cymru yn cael manteisio ar yr un cyfleoedd i wella'n gymdeithasol ac yn addysgol trwy fand eang cyflym – rhywbeth nad yw ar gael yno eto.

Meddai'r Cyng. John Davies (Sir Benfro), Arweinydd WLGA:

“Mae band eang cyflym yn hanfodol i Gymru am ei fod yn ffordd bwysig o wella cymunedau'n gymdeithasol ac yn economaidd. Mae mwy a mwy o bryderon, fodd bynnag, fod cymunedau cefn gwlad Cymru ar ei hôl hi o dipyn ynglŷn ag isadeiledd band eang, o'u cymharu â'r ardaloedd trefol, ac y gallai'r 'bwlch digidol' yma effeithio'n fawr ar les cymdeithasol ac economaidd cefn gwlad.

Mae eisiau llawer mwy o flaenoriaeth i roi band eang ar gael yn yr ardaloedd hynny fel y gall dinasyddion a chwmnïau ddefnyddio gwasanaethau ar y we a manteisio ar y cyfleoedd mae'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yn eu cynnig. Oni bai ein bod yn cymryd camau'n ddiymdroi, mae perygl na fydd yr oes ddigidol yn cyrraedd cefn gwlad Cymru. Rhaid i'r bobl a'r cyrff perthnasol gydweithio i ofalu na fydd hynny'n digwydd. Dylai pob rhan o Gymru, ble bynnag mae hi, gael cyfle teg i gystadlu'n economaidd, datblygu'n gymdeithasol a gwella'n addysgol trwy gael manteisio ar yr un gwasanaethau sydd ar gael i bawb arall.”

Mae'r adroddiad yn sôn am yr amryw fanteision mae band eang yn eu cynnig ac yn dangos sut mae isadeiledd telathrebu sawl rhan o gefn gwlad Cymru yn rhwystro cymunedau gwledig rhag datblygu'n economaidd.

Gan fod Llywodraeth San Steffan wrthi'n paratoi cynllun gweithredu ar gyfer hwyluso cyfleusterau digidol yn y Deyrnas Gyfunol, mae'r adroddiad hwn yn arbennig o berthnasol o ran sbarduno rhagor o drafodaethau am bolisïau ac arferion i sefydlu rhwydwaith fydd yn gallu diwallu anghenion dinasyddion, cwmnïau a chymunedau Cymru.

Mae'r adroddiad ar: http://www.wlga.gov.uk/cymraeg/caffael-publications/y-band-eang-yng-nghymru-wledig/

Nodiadau i olygyddion

Cynllun Gweithredu ‘Digital Britain’
Digital Britain: The Final Report – 16eg Mehefin 2009
Mae adroddiad Digital Britain yn amlinellu'r camau strategol mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu eu cymryd i ofalu y bydd y DG ar flaen y gad o ran cyfleusterau digidol
Mae'r adroddiad yn trafod camau ac argymhellion i ofalu y bydd isadeiledd digidol a chyfathrebu o'r radd flaenaf i hybu a diogelu doniau a syniadau arloesol yn ein diwydiannau creadigol, moderneiddio fframweithiau radio a theledu a helpu i ledaenu newyddion lleol. Mae'n cyflwyno polisïau i wneud y gorau o fanteision cymdeithasol ac economaidd technoleg ddigidol.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Paul Charkiw

< yn ôl