Rhaglen les cymunedol WLGA ar restr fer Gwobrau Tai Cymru
24 Tachwedd 2011
Bydd Rhaglen yr Hyfforddwyr Lles Cymunedol luniodd WLGA ar y cyd â Chymdeithas Tai Newydd i’w phrofi yn ardal y Barri wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tai Cymru 2011. Bydd yn cystadlu yn erbyn pedair rhaglen arall yng nghategori ‘Grymuso a chynnwys cymunedau’ yn ystod y rownd derfynol yng Nghaerdydd yfory.
Nod y rhaglen yw dewis hyfforddwyr lles o blith trigolion lleol – yn arbennig carfanau sy’n ei chael yn anodd dod o hyd i swydd – a’u dysgu nhw i ysgogi eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymdogion i fyw’n iachach. Mae’r hyfforddwyr yn ddolen gyswllt hanfodol rhwng eu cymunedau nhw a’r proffesiynolion, gan gydweithio’n agos ag unigolion i bennu nodau ymarferol ynglŷn â gwella iechyd.
Meddai Maria Uren, Swyddog Polisïau WLGA dros Fenter Blaenau’r Cymoedd:
“Mae’n dda gyda fi bod Rhaglen yr Hyfforddwyr Lles Cymunedol wedi’i chydnabod gan Sefydliad Breiniol y Materion Tai ac y bydd yn cystadlu am wobr yfory. Mae’r rhaglen o gymorth mawr yn yr ymdrech wladol i wella iechyd a lleddfu anghydraddoldeb ym maes iechyd trwy annog a helpu pobl i feithrin ffyrdd iachach o fyw yn eu cymunedau nhw.
Mae’r rhaglen arbrofol ar waith yn y Barri ers pedwar mis a chan ei bod wedi’i chloriannu o’r dechrau, rydyn ni mewn sefyllfa i ddangos deilliannau yn barod. Mae dros 50 o bobl wedi’u cyfeirio at y rhaglen ac maen nhw wedi paratoi cynlluniau iechyd personol. Mae’r galw am wasanaethau megis cymorth i roi’r gorau i ysmygu wedi cynyddu, hefyd. Y camau nesaf yw parhau i gydweithio â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ledaenu’r rhaglen, a’i chloriannu i ddangos ei heffaith.”
Mae rhagor o wybodaeth am Raglen yr Hyfforddwyr Lles Cymunedol ar: http://www.communitywellbeingcoaches.com/information-for-professionals
Mae rhagor o wybodaeth am Wobrau Tai Cymru 2011 ar: http://www.cih.org/events/display/vpathDCR/templatedata/cih/events/data/Welsh_Housing_Awards_2011
Diwedd
Gwybodaeth ychwanegol
Mae Cymdeithas Tai Newydd yn un o gymdeithasau tai blaengar Cymru gan roi 2,600 o dai fforddiadwy o safon ar werth ac ar osod yn ardaloedd nifer o awdurdodau lleol y wlad.
At hynny, mae Newydd yn cynnig gwasanaethau sy’n gysylltiedig â thai megis technoleg gwybodaeth a gofal a thrwsio ym Mro Morgannwg.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet


