Clod i wasanaethau cyhoeddus y cynghorau
17 Mehefin 2010
Cyhoeddwyd rhestr fer cynllun sy'n cydnabod gwaith da gwasanaethau cyhoeddus lleol y wlad heno yn ystod Cynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Bydd yr achlysur gwobrwyo yn ystod cynhadledd am effeithlonrwydd ac ynni yn yr hydref.
Meddai Carl Sargeant AC, Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol:
"Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd rhestr fer Cynllun Rhagoriaeth Cymru eleni. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu talcen caled. Mewn cyfnod ymestynnol o'r fath, mae'n bwysig inni gofio'r agweddau sydd eisoes yn dda. Mae llawer o ansawdd ac arloesi yn ein gwasanaethau cyhoeddus ac mae miloedd ar filoedd o'u gweithwyr wedi ymroi i gyflawni'r safonau uchaf. Yn ogystal â helpu i hyrwyddo'r hyn sydd wedi'i gyflawni, mae Cynllun Rhagoriaeth Cymru a chynlluniau cydnabod cyffelyb yn hyrwyddo ac yn lledaenu'r arferion gorau yng ngwasanaethau cyhoeddus y wlad yma."
Meddai Steve Thomas, Prif Weithredwr WLGA:
“Mae llawer i fod yn falch ohono ym myd llywodraeth leol. Fy mhrofiad i yw mai'r cyrff sydd am arloesi ac efelychu arferion da sefydliadau eraill yw'r rhai mwyaf llwyddiannus. Tri nod Cynllun Rhagoriaeth Cymru yw annog pobl i ddysgu oddi wrth ei gilydd, cydnabod arferion blaengar a gwobrwyo'r rhai sy'n arloesi. Trwy weithio ar y cyd, byddwn ni'n gwella gwasanaethau cyhoeddus y wlad ymhellach yn y sefyllfa ariannol anodd yma. Mae'r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer heno yn dangos pa mor ddyfal mae cynghorwyr a swyddogion yr awdurdodau lleol a byd llywodraeth leol i gyd yn gweithio i ofalu bod gwasanaethau o'r radd flaenaf yng Nghymru."
Cyflwynodd yr awdurdodau lleol, awdurdodau heddlu, gwasanaethau tân ac achub ac awdurdodau parciau cenedlaethol dros 50 o geisiadau eleni yn ôl tair thema. Dyma'r rhai gyrhaeddodd y rhestr fer ym mhob thema:
• Ein Cartrefi – cynnig tai fforddiadwy o safon
- Cyngor Caerdydd
- Cyngor Sir Gâr
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
• Ein Cymunedau Cryf ac Iach – diogelu a gwella ansawdd a hyd bywydau
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Cyngor Sir Gâr
• Ein Gwasanaethau – cynnig gwasanaethau o'r radd flaenaf ar gyfer dinasyddion
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Fframwaith asesu safonol a'r tîm dros faterion plant)
- Cyngor Sir Ceredigion (Campws cyfun i blant)
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Genesis Conwy)
- Cyngor Sir y Fflint (Rhaglen ysgolion arbenigol)
- Cyngor Gwynedd (Strategaeth gynilo a chynllun rheoli asedion)
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Systems Thinking)
- Cyngor Sir Powys (Prosiect gwaith rhieni)
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trechu trais yn y cartref)
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen (Gwasanaeth safonau bwyd)
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Rheoli gwastraff ac ariannu cyfleuster trwy fenter arian preifat)
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (Cydraddoldeb i bawb)
- Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin (Mentrau RaFT)
Ar ben hynny, dyma nifer o brosiectau lle mae awdurdodau'n cydweithio'n agos â chyrff cyhoeddus eraill, cwmnïau preifat a mudiadau gwirfoddol i gynnig gwasanaethau ar y cyd:
- Ffair ariannu ranbarthol (Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Abertawe)
- Goleuo'r strydoedd (Sir Ddinbych, Conwy, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Powys, Wrecsam)
- Cydweithredfa Gwella'r De-ddwyrain (Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Caerffili, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Tor-faen, Bro Morgannwg)
- Cyfuno gwasanaethau offer cymunedol (Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Ymddiriedolaeth Cwm Taf y GIG)
- Rhannu gwasanaethau cyfreithiol (Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gâr, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro)
- Gwasanaethau cynllunio (Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro)
- Prynu offer diogelu personol (pob gwasanaeth tân ac achub)
- Llywodraethu yn yr awdurdodau heddlu (Awdurdodau Heddlu Cymru)
Mae'r cynghorau a chyrff eraill byd llywodraeth leol yn cynnig cannoedd o wasanaethau rydyn ni'n eu gweld ac yn eu defnyddio bob dydd. Hanfod Cynllun Rhagoriaeth Cymru yw cydnabod a hyrwyddo arferion da yn y gwasanaethau hynny. Diben arall y cynllun, fodd bynnag, yw lledaenu arferion o'r fath a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Bydd cyfres o seminarau cyfnewid dysg ac ymweliadau â sefydliadau'n ychwanegu at y cymorth sydd ar gael i ledaenu arferion da ymhlith staff y gwasanaethau cyhoeddus.
Nodiadau i olygyddion
• Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy'n cynnal Cynllun Rhagoriaeth Cymru, a Llywodraeth y Cynulliad sy'n ei ariannu.
• Beirniaid allanol asesodd y ceisiadau.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet, Swyddog dros Faterion y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus (029 2046 8673 lucy.sweet@wlga.gov.uk) Mae rhestr o'r dolenni cyswllt ym mhob awdurdod lleol ac yng nghyrff eraill byd llywodraeth leol wedi'i hatodi.


