Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / Prifathrawon i roi cynnig ar brawf PISA mewn cynhadledd bwysig am addysg
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Prifathrawon i roi cynnig ar brawf PISA mewn cynhadledd bwysig am addysg

13 Hydref 2011

Bydd prifathrawon ysgolion uwchradd ledled Cymru yn sefyll prawf heddiw mewn cynhadledd bwysig mae WLGA yn ei chynnal i baratoi ysgolion ar gyfer profion PISA yn y dyfodol. Bydd gofyn iddyn nhw roi cynnig ar arholiad mathemateg er mwyn cael blas ar y gorchwyl mae'u disgyblion yn ei wynebu.

Bu Cymru yn ymwneud â PISA am y tro cyntaf y llynedd ac roedd y canlyniadau, a gafodd eu cyhoeddi fis Rhagfyr, yn siomedig achos iddyn nhw ddangos ein bod ar ei hôl hi o'n cymharu â sawl gwlad arall yn Ewrop.

Ar ôl gweld y canlyniadau, mynnodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews AC, i'r awdurdodau lleol fynd ati i wella'r sefyllfa. Y gynhadledd heddiw yw'r cam cyntaf i'r perwyl hwnnw.

Meddai Llefarydd WLGA dros Addysg, y Cyng. Peter Fox (Sir Fynwy), sydd yn y gynhadledd yn Llanfair-ym-Muallt:

“Mae'r ysgolion, yr awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a chyrff eraill yn gyfrifol ar y cyd am addysg, ac mae rhaid mynd i'r afael â'r problemau yma yn ddiymdroi mewn modd gonest ac agored. Rydyn ni i gyd am wella byd plant a phobl ifanc ond rhaid gweld cyrhaeddiad gwell yn sgîl hynny.

Mae'r gynhadledd yma'n dod â phobl sydd ar flaen y gad o ran gwella ysgolion Cymru at ei gilydd. Mae'n hanfodol inni gydweithio i wella cyrhaeddiad yn yr ysgolion. Mae'r prifathrawon a'r swyddogion llywodraeth leol yma yn y sefyllfa orau i ddod o hyd i ateb fydd yn addas i Gymru.”

Bydd dau ysgolhaig blaengar ym maes addysg yng Nghymru – yr Athro David Hopkins a'r Athro David Reynolds – yn annerch y gynhadledd. Bydd prifathro a chanddo profiad o baratoi ar gyfer PISA – Phil Whitcombe – yn siarad, hefyd. Mae disgwyl y bydd 120 o bobl yn dod i'r gynhadledd.

Nodiadau i olygyddion

• Bu'r gynhadledd ddydd Iau 13eg Hydref yn Llanfair-ym-Muallt.
• PISA: Rhaglen Asesu Ysgolion yn Rhyngwladol, dan adain y Sefydliad dros Gydweithredu a Datblygu Economaidd (OECD)
• Mae PISA yn arolwg o gyrhaeddiad addysgol disgyblion 15 oed.
• Bydd yr arolwg yn cael ei gynnal bob tair blynedd.
• Cymerodd 65 o wledydd ran yn arolwg PISA yn 2009, gan gynnwys 24 sy'n perthyn i Undeb Ewrop.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet



< yn ôl