Pobl ifanc ledled Cymru yn dathlu Wythnos Genedlaethol y Gwaith Ieuenctid
02 Tachwedd 2009
DATGANIAD NEWYDDION
1af-7fed Tachwedd 2009
Pobl ifanc ledled Cymru yn dathlu Wythnos Genedlaethol y Gwaith Ieuenctid
Bydd Cymru yn dathlu Wythnos y Gwaith Ieuenctid yr wythnos hon (1af -7fed Tachwedd) ac mae pobl ifanc ledled y wlad yn dangos eu cefnogaeth trwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy'n tynnu sylw at y modd maen nhw'n ymwneud â bywyd y gymuned ac yn helpu i lunio gwasanaethau.
Mae 22 gyngor Cymru wedi trefnu llawer o achlysuron megis cystadlaethau doniau, arddangosfeydd celf, dramâu rhyngweithiol, cylchoedd trafod a chynadleddau'r ifainc er mwyn tynnu sylw at faterion pobl ifanc a faint maen nhw'n ei gyfrannu i'w cymunedau yn ogystal ag annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn prosesau penderfynu.
Meddai'r Cyng. Peter Fox (Sir Fynwy), un o lefarwyr WLGA:
“Mae cyfraniad pobl ifanc i'r gymdeithas yn werthfawr iawn ac mae'r wythnos yma'n gyfle i ddathlu hynny ymhlith y cyfryngau a'r cyhoedd fel ei gilydd. Rhaid cydnabod natur eu cyfraniad megis helpu i ddiogelu'r amgylchedd a throi ardaloedd yn lleoedd ffyniannus i fyw a gweithio ynddyn nhw. Fyddai hynny ddim yn bosibl, wrth gwrs, heb waith dyfal ac ymroddiad gweithwyr ieuenctid Cymru sy'n gofalu bod materion pobl ifanc ymhlith blaenoriaethau polisïau a gwasanaethau'r awdurdodau lleol.
Dros y pum mlynedd nesaf, bydd cynghorau'n wynebu penderfyniadau anodd iawn ynglŷn a blaenoriaethu adnoddau. Byddai'n niweidiol iawn pe baen ni'n methu â buddsoddi'n ddigonol yn yr ifainc, yn arbennig yng ngoleuni effaith y dirwasgiad arnyn nhw. Bydd cymorth pobl ifanc yn hanfodol ynglŷn â llunio gwasanaethau'r dyfodol, a'r gamp i awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod anodd sydd i ddod fydd gofalu eu bod yn galluogi staff ieuenctid i barhau â'u gwaith gwerthfawr ac yn hyrwyddo'r gwaith hwnnw.”
Bydd nifer o achlysuron llawn hwyl a gwybodaeth ledled y wlad yr wythnos yma i dynnu sylw at y modd mae'r ifainc yn ymwneud ag amryw agweddau bywyd eu cymunedau a gwaith yr awdurdodau lleol.
Dyma rai o'r gweithgareddau mae'r awdurdodau wedi'u trefnu:
• Cynhadledd Pobl Ifanc (Sir Fynwy)
• Her Celf Graffiti (Powys)
• Noson Doniau'r Ifainc (Caerdydd)
• Dramâu rhyngweithiol (Gwynedd)
• Cystadleuaeth Tynnu Lluniau (Sir y Fflint)
• Noson y Bandiau (Conwy)
• Bod yn rhan o broses benderfynu – Ymgynghori â'r ifainc (Conwy)
• Radio Idol (Castell-nedd Port Talbot)
• Barbeciw Maes Chwaraeon (Abertawe)
Mae rhagor o wybodaeth am beth sy'n digwydd yn eich ardal chi gan weithiwr ieuenctid neu swyddog gwasg y cyngor.
Ar y llaw arall, mae rhagor o wybodaeth am Wythnos y Gwaith Ieuenctid a gweithgareddau i'r ifainc ar: www.thankssam.org.uk
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet, Cynorthwywr Cyfathrebu WLGA – 029 2046 8678 neu Lucy.sweet@wlga.gov.uk
Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Opie


