Pobl ifanc ledled Cymru yn dathlu Wythnos Genedlaethol Gwaith Ieuenctid 2011
01 Tachwedd 2011
Mae pobl ifanc ledled y wlad yn cymryd rhan mewn amryw weithgareddau yr wythnos hon i ddathlu Wythnos Genedlaethol Gwaith Ieuenctid 2011 (1af-7fed Tachwedd).
Mae 22 gyngor Cymru wedi trefnu sawl gweithgaredd megis cystadlaethau chwaraeon, sesiynau cadw’n heini ac achlysuron gwobrwyo i dynnu sylw at faterion pobl ifanc a’u cyfraniad pwysig yn y gymuned yn ogystal ag annog rhagor o bobl ifanc i gymryd rhan mewn prosesau penderfynu lleol.
Meddai Llefarydd WLGA dros Addysg, y Cyng. Peter Fox (Sir Fynwy):
“Mae pobl ifanc yn cyfrannu’n fawr at ein cymdeithas ni ac mae Wythnos y Gwaith Ieuenctid yn gyfle i ddathlu hynny ymhlith y cyfryngau a’r cyhoedd. Rhaid cydnabod yr hyn mae pobl ifanc yn ei wneud megis cymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol a gwneud ardaloedd yn lleoedd ffyniannus i fyw a gweithio ynddyn nhw. Fyddai hynny i gyd ddim yn bosibl, wrth gwrs, heb waith dyfal ac ymroddiad gweithwyr ieuenctid Cymru sydd am ofalu bod materion yr ifainc yn flaenoriaeth bob amser pan fo awdurdodau lleol yn llunio polisïau a gwasanaethau.
Dros y blynyddoedd nesaf, bydd cynghorau’n wynebu penderfyniadau anodd iawn am flaenoriaethu adnoddau. Byddai’n niweidiol iawn pe baen ni’n methu â buddsoddi yn ein pobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn, yn arbennig yng ngoleuni’r ffaith bod y dirwasgiad yn effeithio’n fawr arnyn nhw yn barod. Bydd cyfraniad yr ifainc yn hanfodol ynglŷn a llunio gwasanaethau’r dyfodol, a’r gamp i’r awdurdodau lleol dros y cyfnod anodd sydd i ddod fydd gofalu eu bod yn parhau i gynnal a hybu cyfraniad gwerthfawr y rhai sy’n gweithio ymhlith yr ifainc.”
Bydd nifer o weithgareddau diddanol a diddorol ledled Cymru yr wythnos hon yn tynnu sylw at y modd mae pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gwahanol agweddau ar fywyd eu cymunedau a gwaith eu hawdurdodau lleol.
Dyma rai o’r gweithgareddau sydd wedi’u trefnu:
• Cystadleuaeth bêl-droed gyda swyddogion o’r heddlu a’r gwasanaeth tân (Gwynedd)
• Gweithdai drama (Sir y Fflint)
• Rhaglen gyfnewid gyda phobl ifanc o Iwerddon (Sir Benfro)
• Achlysuron gwobrwyo (Powys a Sir Benfro)
• Mynediad am ddim i glybiau ieuenctid drwy’r wythnos (Caerffili)
• Achlysur gwobrwyo Cynllun Dug Caeredin (Casnewydd)
• Diwrnodau chwaraeon a sesiynau cadw’n heini (Ceredigion)
Mae rhagor am yr hyn sy’n digwydd yn eich bro chi ar: www.thankssam.org.uk
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet


