Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / Talcen caled o flaen gwasanaethau cyhoeddus, yn ôl arweinyddion y cynghorau
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Talcen caled o flaen gwasanaethau cyhoeddus, yn ôl arweinyddion y cynghorau

17 Mehefin 2010

Tynged gwasanaethau cyhoeddus Cymru oedd dan sylw heddiw pan ddaeth 300 o bobl i Gynhadledd Flynyddol WLGA yn Llandudno.

Gan amlinellu'r anawsterau sydd i ddod, dywedodd y Cyng. John Davies (Sir Benfro), Arweinydd WLGA, fod y cynghorau'n cydweithio'n agos yn barod ond bod rhaid i'r gwasanaethau cyhoeddus fod yn fwy uchelgeisiol i ymdopi â'r anawsterau ariannol y bydden nhw'n eu hwynebu.

Gan annerch y gynulleidfa am y sefyllfa wleidyddol ac economaidd bresennol, fe roes y Cyng. Davies bob clod i'r gwasanaethau cyhoeddus am ateb gofynion Gweinidogion Llywodraeth y Cynulliad, ond dywedodd fod angen gwneud llawer mwy eto.

Meddai'r Cyng. John Davies:

“Er bod cyllideb Cymru (£15.7 biliwn) yn un sylweddol, mae'n weddol fechan o'i chymharu â chyllidebau rhai adrannau mawr yn San Steffan. Gan nad oes ond hyn a hyn o ryddid i'w haddasu, mae angen trafodaeth onest ac eang am gyllideb Cymru, gan gynnwys y meysydd sydd dan reolaeth y Cynulliad a'r rhai sydd heb eu datganoli megis yr heddluoedd, y GIG, y gwasanaethau tân, y parciau cenedlaethol a'r trydydd sector.”

“Rhaid canmol y Prif Weinidog am sefydlu'r Gynhadledd am Wasanaethau Cyhoeddus a chroesawu'r ffaith bod Jane Hutt AC yn arwain y Bwrdd dros Effeithlonrwydd ac Arloesi. Mae pob gwasanaeth cyhoeddus yn ateb gofyn y gweinidogion i newid yn gyflymach, ond rwy'n credu bod rhaid inni wneud rhagor – yn wir, rwy'n credu bod rhaid inni wneud rhagor o lawer.”

“Ddylen ni ddim derbyn na diystyru unrhyw beth. Rhaid paratoi a chyflwyno rhaglen ariannol gynnil mewn modd cydlynol. Felly, bydd angen i bob corff cyhoeddus rannu'r baich heb unrhyw anghysondeb. Dyma'r brif wers ddeilliodd o raglen diwygio gwasanaethau cyhoeddus Sweden.”

“Er enghraifft, allwn ni ddim cyfleu negeseuon cyson am golli swyddi ar hyn o bryd am nad oes polisi diswyddo ym maes iechyd na threfniadau adleoli yn y Cynulliad.”

“Efallai y bydd yn well gwario'r arian sydd wedi'i neilltuo i Raglen 'Cymunedau'n Gyntaf' ar addysg. Er mwyn inni dorri cylch tlodi a chael gwared ar dlodi ymhlith plant Cymru, rhaid inni wario rhagor ar addysg.”

“Yn ôl yr adolygiad gynhaliodd cwmni PwC ynglŷn â chostau addysg yn ddiweddar, mae hanes da i fyd llywodraeth leol. Er nad yw popeth yn berffaith, mae byd llywodraeth leol yn fwy effeithlon na sectorau eraill megis addysg bellach ac addysg uwch.”

“Ydy Cynllun Gofodol Cymru yn ychwanegu gwerth? Beth am ffora rhanbarthol byd llywodraeth leol am faterion economaidd a gwastraff? Oes modd gofyn i fyrddau partneriaethau rhanbarthol WLGA gydlynu a chyflawni polisïau? Mae llawer o waith rhanbarthol yn mynd rhagddo yn barod.”

“Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog dros Addysg, Leighton Andrews, am ddatgan yn onest yr wythnos yma fod rhaid cyflymu a symleiddio'r broses benderfynu ynglŷn ag adrefnu ysgolion. Dyma newid eglur tuag at dderbyn rhagor o gyfrifoldeb a bod yn fwy atebol.”

Gofynnodd y Cyng. Davies am ragor o symleiddio ym maes gweinyddu cyhoeddus:

“Mae polisïau Cymru yn eglurach ac yn haws o lawer eu deall na rhai Lloegr yn barod, ond dyw hynny ddim yn golygu na allwn ni wneud rhagor. Yn ogystal ag arolygwyr ac archwilwyr allanol, mae amryw ffyrdd eraill o gadw trefn arnon ni megis amodau ar gyfer grantiau, gofyn i gystadlu am gynnwys cronfeydd ariannol a'r canllawiau mae amryw adrannau Llywodraeth y Cynulliad wedi'u cyhoeddi i geisio rheoli materion lleol yn fanwl. Rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru ostwng ei ffïoedd o dipyn a chanolbwyntio ar wariant archwilio a chost cynnig gwasanaethau fesul uned yn hytrach na phennu sut dylen ni gynnig gwasanaethau cyhoeddus lleol.”

“Yn y sector cyhoeddus ehangach, mae Budd-dal Tai, Lwfans Chwilio am Waith a Chredydau Treth am Ofal Plant yn cael eu gweinyddu trwy sefydliadau gwahanol ac, o ganlyniad, mae dyblygu ynglŷn â chasglu data, asesu hawliau a chynnig gwasanaethau. Allai Cymru gynnal arbrawf ar gyfer cyfuno'r gorchwylion yma?”

“Mae angen cadw popeth mor syml a bychan ag y bo modd a chanolbwyntio ar yr hyn fydd yn gwella byd y bobl a'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu.”

Diwedd
Mae rhagor o wybodaeth gan:

Lucy Sweet: 029 2046 8673
07788101670
lucy.sweet@wlga.gov.uk



< yn ôl