Mae WLGA ac ADSS Cymru yn cytuno delfryd Llywodraeth Cymru ynglyn gwella gofal cymdeithasol
22 Mehefin 2011
Bydd arweinyddion proffesiynol a gwleidyddol o'r sectorau cyhoeddus, preifat ac annibynnol yn cwrdd yng Nghaerdydd yn ystod y ddau ddiwrnod nesaf i gnoi cil ar y modd y bydd gofal cymdeithasol ar gael yng Nghymru yn y dyfodol.
Gan annerch dros 250 o bobl ddechrau'r gynhadledd, fe gadarnhaodd Gwenda Thomas AC, Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaethau i Blant, ei delfryd ynglŷn â chynyddu cyflymder y gwella ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru:
“Mae Cymru yn wlad fechan ond gallwn ni fod yn wlad graff sy'n cynnig gofal cymunedol o'r radd flaenaf er gwaetha'r ffaith nad oedd y dyraniad ariannol yn un teg na digonol.”
Amlinellodd y Gweinidog ei delfryd ynglŷn â gwella gofal cymdeithasol yng Nghymru yng ngoleuni'r newidiadau mawr yn natur y gymdeithas a'r boblogaeth, disgwyliadau cynyddol ymhlith y cyhoedd a gwir bwysau ar adnoddau.
Nododd nifer o elfennau fyddai'n cynyddu cyflymder y gwella dros y 5 mlynedd nesaf: cyfuno, gwasanaethau mae modd eu cynnal, sbarduno'r gwella eto a chydlynu cymunedau. Dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i'w hwyluso yn ogystal â deddfu lle bo'n briodol, gan gynnwys Deddf 'Gwasanaethau Cymdeithasol' Cymru.
Er y byddai deddfu'n bwysig, dywedodd y Gweinidog yn eglur y byddai eisiau mwy na hynny i drawsffurfio'r gyfundrefn i'r graddau priodol a chynnig gwasanaethau o safon. Byddai eisiau arweiniad gwleidyddol a phroffesiynol cryf a dylai pawb fynd ati i ofalu bod newidiadau yn llwyddo a gwella'r hyn rydyn ni'n ei wneud – delfryd mae byd llywodraeth leol Cymru wedi cydio ynddo.
Soniodd y Gweinidog am nifer o ffora a byrddau newydd y byddai'n eu sefydlu i fesur cynnydd – gan gynnwys Partneriaeth Genedlaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol – ac adolygiad o'r trefniadau ariannu presennol.
Gan ymateb i'r cyhoeddiad heddiw, meddai'r Cyng. Meryl Gravell, Llefarydd WLGA dros y Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Rydyn ni'n parchu'r Gweinidog yn fawr am ei bod yn gyfaill i fyd llywodraeth leol Cymru. Rydyn ni'n croesawu ei datganiad eglur a'i brwdfrydedd wrth ddiffinio ei delfryd o ran cynnig gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ogystal â'i hymrwymiad i helpu byd llywodraeth leol a'i bartneriaid i wella'r gwasanaethau.
Rydyn ni'n cytuno â barn Llywodraeth Cymru ynglŷn â gwella gofal cymdeithasol ac rydyn ni'n derbyn bod angen ei wella'n gyflymach a wynebu sawl her. Mae cyfuno'n mynd rhagddo yn barod mewn rhai cynghorau a byddwn ni'n parhau i'w helpu i wneud hynny trwy Fforwm Partneriaeth Genedlaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Rydyn ni'n cefnogi safbwynt y Gweinidog o ran gwrthod y syniad o gynnig gwasanaethau cymdeithasol fel archfarchnad ac rydyn ni o'r un farn y dylai gwasanaethau fod ar gael i bawb drwy gydol ei einioes heb ddidoli pobl mewn categorïau. Rhaid cynnig gwasanaethau cyfun ac effeithiol o'r crud i'r bedd.
Mae pobl Cymru yn haeddu trefn ofal cymdeithasol o'r radd flaenaf, a byd llywodraeth leol sydd yn y sefyllfa orau i hwyluso hynny am fod ganddo gysylltiadau cryf â chymunedau.”
Meddai Parry Davies, Llywydd ADSS Cymru:
“Rydyn ni'n croesawu cydnabyddiaeth y Gweinidog bod gyda ni sylfaen cadarn i adeiladu arno ac rydyn ni'n derbyn bod rhaid inni i gyd gynyddu cyflymer y cydweithio a'r cyfuno i ateb yr heriau sylweddol sydd i ddod. Mae'r gynhadledd heddiw wedi trafod sut dylen ni symud ymlaen er gwaetha'r pwysau cynyddol ar y gwasanaethau i blant ac oedolion fel ei gilydd. Dim ond trwy weithio ar y cyd y bydd modd mynd i'r afael â'r rheiny a chynnig gwasanaethau o'r radd flaenaf i ddinasyddion Cymru.”
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
1. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hybu democratiaeth leol yng Nghymru. Mae'n cynrychioli'r 22 awdurdod lleol ac mae awdurdodau'r 4 heddlu, y 3 gwasanaeth tân ac achub a'r 3 pharc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.
2. ADSS Cymru (Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru) – Dyma'r corff sy'n arwain gwasanaethau a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Prif ddiben ADSS Cymru yw dod â'i haelodau at ei gilydd i hyrwyddo ei hegwyddorion a'i hamcanion. Mae ADSS Cymru yn hybu buddiannau oedolion a phlant y wlad ymhlith adrannau Llywodraeth Cymru, cyrff llywodraeth leol, asiantaethau statudol a'r cyhoedd.


