Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / Mae cyflenwadau halen cynghorau Cymru yn gostwng ac maent o dan bwysau mawr wrth i’r rhew...
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Mae cyflenwadau halen cynghorau Cymru yn gostwng ac maent o dan bwysau mawr wrth i’r rhew...

07 Ionawr 2010

Mae cyflenwadau halen cynghorau Cymru yn gostwng ac maent o dan bwysau mawr wrth i’r rhew mawr barhau.

Gan ymateb i’r sefyllfa bresennol o ran cyflenwadau halen awdurdodau lleol, meddai Steve Thomas, Prif Weithredwr CLlLC:

“Mae parhad tymherau rhewllyd ledled Cymru wedi’i gyfuno â’r dasg o ymdrin â stormydd eira trwm yn ystod y deuddydd diwethaf, wedi gosod straen enfawr ar adnoddau’r cynghorau. O ganlyniad i hyn, mae materion ailgyflenwi sylweddol yn dod i’r amlwg ledled Cymru wrth i stociau rhai awdurdodau ddisgyn mor isel ond digon o halen ar gyfer 24 awr sydd ganddynt.”

“Ar lefel y DU, ymgynullwyd corff cydlynu cynllunio argyfwng ‘Salt Cell’ a’r aelodau yn cynnwys yr Adran Drafnidiaeth, Asiantaethau Cefnffyrdd, y gweinyddiaethau datganoledig, cymdeithasau llywodraeth leol a darparwyr halen. Bydd y corff hwn yn ceisio blaenoriaethu dosbarthu halen i ardaloedd allweddol ledled y DU yn ystod yr wythnos nesaf lle y bod wir ei angen.”

“Fodd bynnag, realiti’r sefyllfa yw nad oes llawer o obaith y bydd y cyflenwad yn cyfateb i’r galw yn ystod y pum diwrnod nesaf ac, o bosib, yn hirach. Bydd angen i Salt Cell ddatrys y problemau hyn, eu goblygiadau a’u logisteg yn uniongyrchol.”

“Bydd ymdrin â graddfa’r galw gan awdurdodau lleol ledled y DU yn golygu y bydd prinder a bydd rhai awdurdodau yn gweld eu cyflenwadau yn disgyn i lefelau isel difrifol. Yn sgil hyn, disgwylir y bydd nifer o ysgolion ledled Cymru yn aros ar gau wrth i fynedfeydd ac ardaloedd chwarae barhau i fod yn beryglus ac, o bosib, beryglu diogelwch plentyn. Dyma’r sefyllfa mewn ardaloedd cefn gwlad yn enwedig sydd wedi’u heffeithio’n drwm gan yr eira ers nifer o wythnosau a lle y mae nifer o ysgolion bychain.”

“Gofynnwn am amynedd a chymorth parhaus y cyhoedd o ran mesurau synnwyr cyffredin. Mae’n hanfodol bod gyrwyr yn arafu er mwyn gweddu cyflwr presennol y ffyrdd. Hefyd, gofynnwn i gymdogion alw i mewn ar bobl sydd yn byw yn agos atynt efallai eu bod yn fregus neu bod ganddynt anghenion corfforol neu anghenion cymorth eraill. Gall palmentydd mewn nifer o ardaloedd aros wedi’u rhewi oherwydd, yn gyffredinol, nad ydynt yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer graenu wrth i gynghorau weithio i gadw rhwydweithiau priffyrdd ar agor ac yn ddiogel. I’r diben hwn, dylai’r cyhoedd gymryd gofal mawr wrth deithio naill ai ar droed neu yn y car.”

Mae rhagor o wybodaeth gan:



< yn ôl