Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / Awdurdod Heddlu Gwent ‘wedi ymrwymo'n gryf i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb'
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Awdurdod Heddlu Gwent ‘wedi ymrwymo'n gryf i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb'

24 Chwefror 2010

Mae Arolygwyr Heddluoedd Ei Mawrhydi a Swyddfa Archwilio Cymru wedi canmol Awdurdod Heddlu Gwent mewn adroddiad yn sgîl ei arolygu yn ddiweddar.
Ar ôl bwrw golwg manwl dros yr awdurdod, cyhoeddodd yr arolygwyr eu hadroddiad heddiw. Daethon nhw i'r casgliad bod Awdurdod Heddlu Gwent wedi amlygu arweiniad effeithiol a meithrin perthynas adeiladol ac ymestynnol â'r heddlu. At hynny, mae'r adroddiad yn dweud bod yr awdurdod yn gwneud pob ymdrech i leddfu anghydraddoldeb ac amgylchiadau anfanteisiol trwy ymgysylltu â phobl groenddu, pobl eraill o dras leiafrifol a charfanau eraill anodd eu cyrraedd.
Mae Awdurdod Heddlu Gwent ymhlith yr awdurdodau cyntaf fu'n destun arolygu yn ôl y broses newydd. Dyma'r tro cyntaf mae'r broses honno wedi'i defnyddio yng Nghymru. Hanfod yr arolygu ar ei newydd wedd yw canolbwyntio ar bedwar maes: gwerth arian, arwain, craffu ac ymgysylltu â'r gymuned. Daeth i'r amlwg bod Awdurdod Heddlu Gwent yn gweithio'n dda ym mhob un o'r pedwar maes.

Llongyfarchodd y Cyng. Lindsay Whittle (Llefarydd WLGA dros Gydraddoldeb, Cyfiawnder Cymdeithasol a Diogelwch Cymunedol) Awdurdod Heddlu Gwent:

"Dyma ganlyniad calonogol iawn sy'n dangos bod aelodau a swyddogion Awdurdod Heddlu Gwent wedi gweithio'n ddyfal ac ymroi'n gryf i ofalu bod gwasanaethau'r heddlu'n effeithlon er lles pobl yr ardal.

Roedd yn arbennig o galonogol gweld bod yr awdurdod yn rhagori o ran cael gwerth ei arian a gweithio'n gynhyrchiol. Yn y sefyllfa ariannol anodd yma, mae mwy a mwy o bwysau ar wasanaethau rheng flaen i ddangos eu bod yn gwario arian trethdalwyr yn ddoeth, ac mae'r adroddiad yn dangos bod modd mynd â'r maen i'r wal trwy gynllunio'n ofalus ac asesu'n drylwyr."

Diwedd
Mae rhagor o wybodaeth gan:

Lucy Sweet: 029 2046 8678 neu lucy.sweet@wlga.gov.uk


Nodiadau i olygyddion

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ymwneud â phob math o lywodraethu ar wahân i'r meysydd mae Llywodraeth San Steffan yn gyfrifol amdanyn nhw o hyd. Ac yntau'n Bennaeth Swyddfa Archwilio Cymru, bydd Prif Archwilydd Cymru naill ai'n archwilio cyrff yn uniongyrchol fel yn achos Llywodraeth y Cynulliad neu'r GIG neu, fel yn achos byd llywodraeth leol, yn penodi archwilwyr i wneud hynny.

Mae Arolygwyr Heddluoedd Ei Mawrhydi yn arolygiaeth annibynnol sy'n arolygu heddluoedd er lles y cyhoedd ac yn archwilio'n drylwyr pa mor effeithiol yw heddluoedd a'u hawdurdodau ynglŷn â mynd i'r afael â throseddwyr a therfysgwyr, trin a thrafod cyfiawnder cymdeithasol a meithrin hyder.

Mae copïau o'r adroddiad ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru: www.wao.gov.uk

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet



< yn ôl