Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / Diweddariad Arweinydd WLGA - Rhifyn 04
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Diweddariad Arweinydd WLGA - Rhifyn 04

05 Rhagfyr 2011

CYNNWYS

1. Compact Llywodraeth Cymru a byd llywodraeth leol, er newid

2. Materion y gweithlu

3. Cynyddu cyfalaf 

1. Compact Llywodraeth Cymru a byd llywodraeth leol, er newid

Cafodd y 22 arweinydd gyfle i gnoi cil ar y Compact yn ystod cyfarfod Pwyllgor Cydlynu WLGA ar 25ain Tachwedd a daeth safbwynt eglur i'r amlwg. Ar y cyfan, roedd yr aelodau o'r farn bod y tri chytundeb gweithredu'n eithaf derbyniol, yn amodol ar rai newidiadau.

Doedden nhw ddim yn fodlon ar bennod ragarweiniol y Compact, fodd bynnag. Eu barn nhw oedd bod naws y ddogfen yn fygythiol, heb adlewyrchu ysbryd gweithio ar y cyd. Gan fod sawl cyfeiriad at rym wrth gefn y Cynulliad, roedd amheuon y byddai angen llofnodi cytundeb o gwbl. Dywedodd arweinyddion y cynghorau y byddai rhaid ei newid yn fawr cyn bwrw ymlaen â'r mater. Yn yr un modd, roedden nhw'n gryf o'r farn y dylai pob cyngor unigol ymrwymo i'r Compact am y byddai'n effeithio'n fawr ar drefn y gwasanaethau a modd eu cynnig yn y dyfodol. Bu peth trafodaeth am beth fyddai'n digwydd pe na bai'r rhan fwyaf o gynghorau'n fodlon derbyn y Compact, hefyd.

Mae'r Compact wedi'i newid bellach ac mae'n ymddangos bod cydsyniad ei fod yn fwy addas o dipyn i'w ddiben. Bydd trafodaeth amdano gyda'r Gweinidog yn ystod cyfarfod Cyngor y Bartneriaeth ar 5ed Rhagfyr 2011. Bydd nifer o gynghorau'n trafod y Compact ym mis Rhagfyr ond bydd rhai trafodaethau'n parhau yn y Flwyddyn Newydd o achos amserlenni'r pwyllgorau.

Dolen gyswllt: Steve Thomas, Prif Weithredwr WLGA, 029 2046 8610 steve.thomas@wlga.gov.uk  

2. Materion y gweithlu

Trafodaethau am gyflogau, 2012

Bu sesiwn ymgynghori a hysbysu am gyflogau yn Llanfair-ym-Muallt ddydd Iau 17eg Tachwedd – un o 11 cyfarfod o'r fath ddigwyddodd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bu cynrychiolwyr 16 awdurdod yno. Rhoes Harry Honnor, Cyflogwyr Llywodraeth Leol, gyflwyniad am gefndir a chyd-destun trafodaethau am gyflogau eleni.

Ar ôl llawer o drafod, cydnabu pawb fod pwysau ar y gweithwyr, yn arbennig y rhai is eu cyflogau. O ystyried y dyraniad cyfredol a'r ansicrwydd economaidd, byddai pwyslais ar gadw swyddi ac osgoi diswyddo staff yn orfodol, a byddai cynnydd yn y cyflogau'n amharu ar y strategaeth honno. Cydnabu pawb na fyddai modd parhau â'r sefyllfa honno dros y tymor hir ac y byddai rhaid rhoi rhywfaint o gynnydd ar ôl 2012-13.

Pensiynau

Trafododd aelodau Cyngor WLGA adroddiad am bensiynau yn eu cyfarfod fis Hydref. Mae Llywodraeth San Steffan am gynyddu cyfraniadau'r gweithwyr at Gynllun Pensiynau Llywodraeth Leol o 3.2% dros dair blynedd o 2012/13 (sy'n gyfwerth ag arbed £900 miliwn) yn rhan o'i hymdrech i fynnu i staff y sector cyhoeddus i gyd dalu rhagor. Ar ôl trafod dau ddewis, cytunodd yr aelodau mai Dewis 2 fyddai orau gyda nhw ynglŷn ag ymateb WLGA i'r ymgynghori a ddaw i ben ar 6ed Ionawr 2012.

Dolen gyswllt: Jonathan Lloyd, Ymgynghorydd Cyflogaeth, 029 2046 8644 jonathan.lloyd@wlga.gov.uk

3. Cynyddu cyfalaf

Mae WLGA a Llywodraeth Cymru wedi cynnal trafodaethau i ddyfeisio ffyrdd o helpu awdurdodau lleol i fuddsoddi rhagor o gyfalaf a sbarduno economïau lleol.

Cyhoeddodd y Gweinidog dros Gyllid ac Arweinydd y Tŷ ar 22ain Tachwedd fod cynllun ar y gweill. Yr hyn sydd wedi deillio o'n trafodaethau ni yw cynllun arbrofol fydd yn gadael i fyd llywodraeth leol wario rhagor ar ffyrdd. Yn ôl y cynllun, bydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu Grant Cynnal y Refeniw i helpu'r cynghorau i ymdopi â phwysau ar gyllid yn ogystal â benthyg cymaint o arian ag y bo modd ar gyfer isadeiledd mae rhaid ei gynnal ar y cyd. O ganlyniad i'r cyllid ychwanegol, bydd modd i awdurdodau lleol neilltuo adnoddau ar gyfer rhaglenni buddsoddi cyfalaf. Bydd yr arian ar gael dros gyfnod penodol a bydd byd llywodraeth leol, yn ei dro, yn gofalu bod y rhaglenni buddsoddi newydd yn ychwanegu at y rhai sy'n mynd yn eu blaen yn barod ac yn cael eu defnyddio i ariannu gwaith mae pawb wedi cytuno ei fod yn flaenoriaeth. Mae disgwyl ar hyn o bryd y bydd y cynllun yn cynnig rhwng £100 a £170 miliwn dros gyfnod cyfredol yr Adolygiad o Wariant. Yn amodol ar ei lwyddiant, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried defnyddio'r cynllun yn rhai o feysydd isadeiledd eraill byd llywodraeth leol yn y dyfodol.

Fe roes Pwyllgor Cydlynu WLGA sêl ei fendith ar y syniad o sefydlu cynllun arbrofol yn ystod ei gyfarfod ar 25ain Tachwedd ac mae WLGA yn parhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru i fireinio manylion ei weithredu.

Dolen gyswllt: Tim Peppin, Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaladwy, 029 2046 8669/ tim.peppin@wlga.gov.uk

 



< yn ôl