Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / Datganiad WLGA am Gartrefi Gofal Southern Cross
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Datganiad WLGA am Gartrefi Gofal Southern Cross

01 Mehefin 2011

“Fydd hen bobl a'r rhai sy'n agored i niwed ddim yn dioddef o ganlyniad i sefyllfa Southern Cross Healthcare. Dyma sicrhau'r preswylwyr y bydd pob awdurdod lleol yn parhau i ofalu amdanyn nhw.

Er bod sefyllfa cwmni Southern Cross braidd yn anodd, rydyn ni wedi gwybod amdani ers peth amser ac mae pawb wedi cydweithio i sefydlu trefniadau fydd yn ein galluogi ni i ymdopi ag unrhyw broblemau allai godi.

Mae WLGA a Chymdeithas Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) yn siarad â Llywodraeth Cymru yn rheolaidd a'r flaenoriaeth inni i gyd trwy'r trafodaethau hynny yw parhau i ofalu am y rhai sy'n byw yng nghartrefi gofal South Cross.

Mae WLGA yn annog unrhyw bobl sydd â phryderon i gysylltu â Southern Cross neu'r awdurdod lleol.”

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet



< yn ôl