Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / Cyngor Sir Fynwy ar restr fer rhaglen arloesi wladol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Cyngor Sir Fynwy ar restr fer rhaglen arloesi wladol

04 Awst 2011

Mae Cyngor Sir Fynwy ymhlith 17 o gynghorau ledled Cymru a Lloegr sydd wedi cyrraedd rhestr fer rhaglen newydd, ‘Cynghorau Creadigol’, mae’r Gwaddoliad Cenedlaethol dros Wyddoniaeth, Technoleg a’r Celfyddydau (NESTA) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr (LGA) yn ei chynnal.

Cyflwynodd naw o gynghorau eraill Cymru geisiadau i’r rhaglen, ac mae crynodebau o’r 137 o geisiadau gyflwynodd amryw gynghorau ar: www.simpl.co

Meddai Steve Thomas CBE, Prif Weithredwr WLGA:

"Dyma newyddion gwych i Gyngor Sir Fynwy a byd llywodraeth leol Cymru i gyd. Mae’r amrywiaeth o geisiadau gyflwynodd cynghorau Cymru yn dangos eu bod yn defnyddio ffyrdd arloesol a mentrus o gynnig gwasanaethau ac ymateb i’r anawsterau mae pob cyngor yn eu hwynebu yn y sefyllfa sydd ohoni. Mae cynghorau Cymru ar flaen y gad o ran arloesi a thrawsffurfio gwasanaethau, ac mae hynny wedi dod i’r amlwg trwy eu rôl flaengar yn rhaglen effeithlonrwydd ac arloesi Llywodraeth Cymru."

Bydd y cynghorau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cydweithio’n agos â NESTA a Chylch Llywodraeth Leol dros y misoedd nesaf i fireinio eu syniadau. Wedyn, bydd pum cyngor yn cael eu dewis i gael cymorth ariannol ac ymarferol er mwyn rhoi eu syniadau nhw ar waith. Dyma’r 17 gyngor:

1. Brighton a Hove
2. Briste
3. Swydd Gaergrawnt
4. Cernyw
5. Swydd Derby
6. Essex
7. Bwrdeistref Havering, Llundain
8. Bwrdeistref Islington, Llundain
9. Caerlŷr
10. Sir Fynwy
11. Reading
12. Rossendale
13. Rotherham
14. Stoke on Trent
15. San Steffan
16. Wigan
17. Caerefrog

Bydd Rhaglen y Cynghorau Creadigol, a gafodd ei sefydlu fis Ebrill, yn helpu cynghorau arloesol i lunio, cyflwyno a lledaenu ffyrdd trawsffurfiol o ateb rhai o’r heriau mwyaf mae rhaid i gymunedau a gwasanaethau lleol eu hwynebu dros y tymor canolig a’r tymor hir.

Mae’r ymateb i’r gwahoddiad i gyflwyno ceisiadau wedi dangos bod digon o awydd i arloesi ymhlith y cynghorau a’u bod am brofi dulliau newydd beiddgar. Cyflwynodd tua thraean o awdurdodau lleol Cymru a Lloegr (38%) gyfanswm o 137 o geisiadau i’r rhaglen.

Meddai Phillip Colligan (Labordy Gwasanaethau Cyhoeddus NESTA):

“Dyma raglen uchelgeisiol sydd wedi ennyn llawer o ddiddordeb ymhlith cynghorau o bob cwr o’r deyrnas. Rydyn ni’n gwybod bod angen dulliau mentrus newydd achos bod cymunedau a gwasanaethau lleol yn wynebu talcen caled, ac mae’r cynghorau wedi dangos eu bod am fynd ati mewn ffyrdd trawsffurfiol.

Mae llwyddiant y rhaglen yn dibynnu ar ein hymdrech i hybu’r syniadau yma tu hwnt i’r ardaloedd lle cawson nhw eu dyfeisio. Rydyn ni’n benderfynol o ofalu y bydd Rhaglen y Cynghorau Creadigol yn ffynhonnell ysbrydoliaeth a gwybodaeth gadarn fydd o les i fyd llywodraeth leol i gyd, nid dim ond y cynghorau y byddwn ni’n cydweithio’n uniongyrchol â nhw. Yn unol â’r egwyddor yma, rydyn ni’n cymryd y cam unigryw o gyhoeddi manylion y ceisiadau ar y we fel y bydd cyfle i gwestiynu a datblygu’r syniadau a sefydlu trefniadau cydweithredu newydd.”

Meddai’r Cyng. Peter Fleming, Cadeirydd Bwrdd Rhaglen Gwella Cylch Llywodraeth Leol:

“Mae hanes y cynghorau’n dangos mai byd llywodraeth leol yw’r rhan fwyaf arloesol a blaengar o’r sector cyhoeddus. Mae pob un o’r 137 o geisiadau sydd wedi’u cyflwyno i Raglen y Cynghorau Creadigol yn cynnwys syniadau newydd a diddorol, ond rydyn ni o’r farn mai'r 17 awdurdod sy’n mynd ymlaen i’r cam nesaf gynigiodd y syniadau mwyaf addawol o ran gwella gwasanaethau lleol yn sylweddol ac arbed costau.

Mae angen i’r sector ychwanegu at ei hanes o arloesi. Gan y bydd llai o arian gwladol ar gael, mae’n amlwg bod eisiau i’r cynghorau ddyfeisio ffyrdd newydd o weithio a chynnig gwasanaethau. Trwy ledaenu a phrofi’ch syniadau ymhlith pobl eraill y daw arloesi. Fe fyddwn ni’n cydweithio â’r 17 awdurdod a NESTA i roi’r prosiectau a’r syniadau yma ar waith.”

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen ar:
http://www.nesta.org.uk/areas_of_work/public_services_lab/creative_councils

Simpl-http://simpl.co/nesta-creative-councils

Diwedd

Nodiadau i olygyddion

Rhagor am Raglen y Cynghorau Creadigol
Roedd y ceisiadau'n ymwneud ag amrywiaeth helaeth o'r anawsterau sy'n wynebu gwasanaethau a chymunedau lleol megis cynnal poblogaeth ac ynddi ragor o hen bobl, ateb y galw cynyddol am wasanaethau cymdeithasol, helpu pobl i ddod i hyd i swyddi a hwyluso twf fydd yn parhau. Cynigiodd cynghorau syniadau mentrus megis ad-drefnu adnoddau cyhoeddus, dinesig a phreifat ac, mewn sawl achos, newid swyddogaeth byd llywodraeth leol yn llwyr.

Yn sgîl dadansoddi'r ceisiadau, mae'n amlwg bod angen a galw am gyngor a chymorth fydd yn hwyluso arloesi mentrus yn lleol. Nod Rhaglen y Cynghorau Creadigol yw ymateb i'r galw hwnnw, a bydd y rhaglen yn cael ei chynnal yn ôl y gwersi a ddaw i'r amlwg wrth gydweithio â'r cynghorau sy'n cymryd rhan ynddi.

Bydd crynodebau o'r 137 o geisiadau ar y we heddiw ynghyd â data fydd yn galluogi unrhyw un i'w dadansoddi a chyfleu ei farn am safon yr arloesi yng nghynghorau Cymru a Lloegr. Mae hynny'n unigryw o ran rhaglenni arloesi gwladol.

Bydd crynodebau'r cynghorau eu hunain o'u syniadau nhw ar: www.simpl.co Mae Simpl yn farchnad i syniadau arloesol. Mae'n dod ag arloeswyr, syniadau, cynghorau a phobl berthnasol eraill at ei gilydd ac yn rhoi cyfle i bobl fynegi diddordeb mewn syniadau, rhoi sylwadau, ystyried ffyrdd o gydweithredu a chynnig cymorth.

Dros y misoedd nesaf, bydd y rhaglen yn helpu'r 17 gyngor sydd ar y rhestr fer i fireinio eu syniadau nhw. Byddan nhw'n cael cyfle i fanteisio ar gymorth ariannol ac ymarferol dros y chwe mis nesaf, hefyd. Y disgwyl yn y pen draw yw y bydd pump o'r syniadau mwyaf addawol yn cael cymorth ariannol ac ymarferol sylweddol i'w rhoi ar waith, gan gynnwys eu lledaenu i ardaloedd eraill. Yn unol ag agwedd agored y rhaglen, fe fydd gwersi a dulliau'n cael eu lledaenu ymhlith cynghorau Cymru a Lloegr drwy'r amser.


Ynglŷn â NESTA
Prif arbenigwr y DG ynglŷn â datrys rhai o anawsterau economaidd a chymdeithasol mwyaf y deyrnas trwy arloesi yw NESTA. Gan ei bod yn fenter waddoledig trwy'r Lotri Wladol, mae'n gweithio heb ofyn am arian y trethdalwyr. Mae NESTA yn flaengar iawn ym maes arloesi ac yn cyflawni ei waith trwy gyfuniad o raglenni arbrofol, ymchwil ddadansoddol a buddsoddiadau mewn cwmnïau newydd.
www.nesta.org.uk


Ynglŷn â Chylch Llywodraeth Leol
Diben Cylch Llywodraeth Leol yw cynorthwyo, hyrwyddo a gwella byd llywodraeth leol.

Mae'r cylch yn ymwneud â phob rhan o Gymru a Lloegr gan gynnwys cynghorau sir a dosbarth, cynghorau prifddinasol ac unedol, bwrdeistrefi Llundain, cynghorau unedol Cymru ac awdurdodau'r gwasanaethau tân, yr heddluoedd, y parciau cenedlaethol a'r cyfleusterau cludo.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet



< yn ôl