Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / Cynghorau yn cefnogi dichonoldeb Gwasanaethau Cymdeithasol CanoLBARTH Cymru
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Cynghorau yn cefnogi dichonoldeb Gwasanaethau Cymdeithasol CanoLBARTH Cymru

12 Rhagfyr 2011

Mae Cynghorwyr Sir Ceredigion a Phowys wedi cefnogi argymhellion i barhau i gydweithio tuag at ffurfio Gwasanaethau Cymdeithasol Canolbarth Cymru.


Mae aelodau yn cydnabod y budd posibl yn y ffordd ymlaen a grybwyllwyd a phenderfynwyd y dylai gwaith cynllunio gael ei gomisiynu yn awr i gynnwys model gweithredol ar gyfer elfennau rhanbarthol y gwasanaethau, ynghyd â chynllun busnes a chyllidebol a fyddai’n cael eu hadrodd yn ôl ar gyfer ystyriaeth bellach a phenderfyniad.


Mae’r ddau gyngor wedi croesawu’r pwyslais yn yr adroddiad y bydd gwasanaethau craidd rheng flaen yn parhau i gael eu cynnig gan staff lleol ac y byddai ymatebolrwydd politicaidd lleol hefyd yn parhau.


Mae Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys wedi bod yn gweithio ar astudiaeth dichonolrwydd ers apwyntiad interim Cyd-gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol - Parry Davies - ym mis Mai eleni.


Gyda chefnogaeth yr ymgynghorwyr Pricewaterhouse Coopers, maent wedi bod yn ystyried strwythurau’r ddau awdurdod, eu polisïau a’u systemau, gan chwilio am gyfleoedd i gydweithio.


Cyfarfu Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol y Canolbarth, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), yn Llanfair ym Muallt heddiw a nodwyd y penderfyniad.


Dywedodd y Cynghorydd Keith Evans, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, a’r Cynghorydd Hag Harris (Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Wasanaethau Cymdeithasol): “ Mae’r adroddiad yn ardystio'r ymrwymiad o gadw gwasanaethau blaenllaw a chraidd yn lleol ac mae’n cefnogi atebolrwydd politicaidd lleol o’r ddau gyngor. Mae hefyd yn cynnig sefydlu tîm rhanbarthol rheoli lleol ac mae’n awgrymu y gall rhai gwasanaethau cael eu trefnu’n rhanbarthol. Fe allai hyn fod o gymorth i’r awdurdodau i wynebu’r galwad cynyddol a’r pwysau ariannol.”


Ychwanegodd y Cynghorydd Michael Jones, Arweinydd Cyngor Sir Powys a’r Cynghorydd Rosemarie Harris (Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Wasanaethau Cymdeithasol): “Mae pob llywodraeth leol yn gorfod edrych yn ofalus ar ei wasanaethau i weld a oes modd gweithio mewn modd mwy effeithiol. Fe wnaeth Ceredigion a ninnau edrych ar strwythurau ein gwasanaethau cymdeithasol ac mae’r adroddiad hwn yn dangos drwy weithio gyda’n gilydd y gallwn gynnig gwell gwasanaeth i breswylwyr o’r ddwy sir.”


Dywedodd Steve Thomas CBE, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA): “Mae’r WLGA yn hapus ei fod wedi cefnogi’r astudiaeth dichonolrwydd o’r cychwyn cyntaf ac felly rydym yn croesawu’r newyddion. Drwy sefydlu Bwrdd WLGA Gwasanaethau Cymdeithasol Canol Cymru, mae Ceredigion a Phowys wedi parhau i gael record gref o gydweithio ar faterion megis gwastraff a phriffyrdd. Mae’r cydweithio o ran y gwasanaethau cymdeithasol nid yn unig yn dangos bod y ddau awdurdod yn barod i edrych ar ffyrdd newydd o reoli gwasanaethau hanfodol, ond hefyd yn cynrychioli cam aruthrol ymlaen a fydd yn ddiamheuol yn helpu awdurdodau i ymateb yn strwythurol i Wasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy: Fframwaith i Weithred.”


Mae’r archwiliad yn nodi y bydd hi’n annhebygol gweld newidiadau arwyddocaol o ran niferoedd y staff yng Ngheredigion a Phowys, er bydd unrhyw newid yn golygu ymgynghoriad llawn gyda’r undebau.


Cyfarfu’r ddau Gyngor ddydd Iau diwethaf. Ddydd Mawrth yr wythnos ddiwethaf, cefnogodd aelodau’r ddau Gabinet yr adroddiad gan gyfeirio’r adroddiad at bob aelod am benderfyniad.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet



< yn ôl