Clod gweinidog am gynnydd gwasanaethau, rhybudd arweinyddion am effaith toriadau
01 Gorffennaf 2010
Cydnabu'r Dirprwy Weinidog, Gwenda Thomas AC, y cynnydd parhaus ym maes gofal cymdeithasol wrth annerch Cynhadledd Genedlaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llandudno, heddiw.
Gan amlinellu sut bydd angen i'r gwasanaethau newid yn ystod y cyfnod anodd hwn, meddai, “Gallwn ni fod yn falch iawn o hanes y gwasanaethau cymdeithasol ers datganoli. Mae llawer wedi'i wneud i fynd i'r afael â phroblemau, nodi anghenion dinasyddion a gwella ansawdd y gwasanaethau.”
Fe roes y gynhadledd y cyfle cyntaf i drafod y toriadau yn y sector cyhoeddus (gwerth £100 miliwn dros y tair blynedd nesaf, o bosibl) ers i Ganghellor y Trysorlys gyhoeddi ei gyllideb.
Meddai'r Cyng. John Dixon, Dirprwy Lefarydd WLGA dros y Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae'n dda gen i fod y Gweinidog wedi cydnabod y gwaith sylweddol sy'n mynd rhagddo i gynnig gwasanaethau o'r radd flaenaf. Mae'r cynghorau'n wynebu problemau ariannol na welon ni eu tebyg erioed ac, er bod y galw am wasanaethau'n cynyddu, mae llai a llai o adnoddau ar eu cyfer.
Rydyn ni am ateb y problemau sydd o'n blaen ni ac rwy'n croesawu'r cyhoeddiad y bydd papur gwyn newydd am y gwasanaethau cymdeithasol gan y bydd yn eu helpu i ddod trwy'r sefyllfa anodd yma.”
Meddai Llywydd ADSS Cymru, Bruce McLernon: “Mae'r gynhadledd yn gyfle pwysig i'r rhai sy'n ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol gnoi cil ar y ffordd orau o ymdopi â'r sefyllfa ariannol rydyn ni ynddi, cyflawni'r targedau ynglŷn ag arbedion a gofalu na fydd hynny'n amharu ar safon y gwasanaethau.
Rydyn ni'n croesawu'r adolygiadau mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u comisiynu achos y byddan nhw'n dangos sut gallwn ni gynnal gwasanaethau ac yn helpu i ofalu ein bod yn cadw'r ddysgl yn wastad rhwng rheoleiddio, arolygu a gwella yng Nghymru.”
Y prif bynciau dan sylw yn ystod y gynhadledd fu sut i barhau â newid gwasanaethau cymdeithasol er gwell yn sgîl y cwtogi mawr ar wariant cyhoeddus a sut mae cynnal y gwasanaethau hynny dros y tymor hir yng Nghymru.
Mae rhagor o wybodaeth gan:
Lucy Sweet 029 2046 8673, 07500038959 neu: lucy.sweet@wlga.gov.uk
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet


