Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / Casgliad WLGA ar y we i ddibenion cydweithio
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Casgliad WLGA ar y we i ddibenion cydweithio

01 Chwefror 2012

Mae WLGA heddiw wedi cyhoeddi ar y we Gasgliad Cydweithio – pecyn hawdd ei ddefnyddio ac ynddo wybodaeth am brosiectau cydweithio a gweithio ar y cyd ledled y wlad. Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru fydd yn cynnal y casgliad.

Mae gan WLGA gasgliad o'r fath er 2006, ond mae'r fersiwn newydd ar y we yn unigryw am ei fod yn 'ddogfen fyw' y bydd modd ei diweddaru yn ôl yr angen, gan alluogi pobl i'w chwilio'n drylwyr fesul maes, gwasanaeth neu ranbarth.

Dyma linc â'r casgliad: http://www.dataunitwales.gov.uk/rcc/Default.aspx

Meddai Steve Thomas CBE, Prif Weithredwr WLGA:

“Ers sefydlu byrddau partneriaethau rhanbarthol WLGA yn 2006, rydyn ni wedi casglu gwybodaeth am brosiectau cydweithio a threfniadau gweithio ar y cyd trwy Gymru i gyd. Gan fod llawer o ddeunydd ym mhob cyfrol o'r casgliad, mae'n amlwg bod byd llywodraeth leol a'i bartneriaid wedi ymrwymo i newid gwasanaethau cyhoeddus Cymru er gwell.

Erbyn hyn, mae'r casgliad yn adnodd cynhwysfawr sy'n cael ei ddefnyddio'n aml. Er ein bod yn parhau i'w ddiweddaru, fodd bynnag, dim ond hyn a hyn o bethau mae modd eu rhoi ynddo. Felly, gyda chymorth Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru, rydyn ni wedi'i droi'n wefan hawdd ei defnyddio y bydd yn bosibl ei diweddaru'n rheolaidd.”

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet



< yn ôl