Canlyniadau da eto i ddisgyblion Cymru yn arholiadau Safon Uwch
18 Awst 2011
Hoffai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru longyfarch disgyblion Cymru heddiw am eu canlyniadau ardderchog eleni yn arholiadau Bagloriaeth Cymru a Safon Uwch. Mae canran y rhai lwyddodd yn arholiadau Bagloriaeth Cymru yn uwch nag erioed.
Meddai’r Cyng. Peter Fox (Sir Fynwy), Llefarydd WLGA dros Ddysgu Gydol Oes:
“Mae’r canlyniadau heddiw yn dangos ymroddiad a gallu disgyblion Cymru ac yn adlewyrchu gwaith dyfal arbenigwyr addysg yn yr ysgolion, yr awdurdodau lleol a’r sefydliadau addysg bellach ledled y wlad.
Mae’n arbennig o galonogol gweld cymaint o gynnydd yn nifer y disgyblion sydd wedi ennill Bagloriaeth Cymru eleni. Dyma’r flwyddyn fwyaf llwyddiannus hyd yn hyn i’r cymhwyster hwnnw.
Mae awdurdodau lleol Cymru wedi ymrwymo i gynnal trefn addysg ragorol er lles Cymru, a byddan nhw’n parhau i fuddsoddi yn y maes hanfodol hwn. Fe fydd y canlyniadau heddiw yn gosod sylfaen cadarn ar gyfer buddsoddi yn ysgolion y wlad.”
Nodiadau i olygyddion:
• Ar y cyfan, bu cynnydd bychan yng nghanran y rhai gafodd raddau A*- E yng Nghymru (97.2% eleni, o’i chymharu â 97.1% y llynedd).
• Mae canran yr ymgeiswyr gafodd raddau A* wedi gostwng ychydig (6.3% eleni, o’i chymharu â 6.5% y llynedd) ac mae canran y rhai gafodd raddau A wedi gostwng hefyd (23.9% eleni, o’i chymharu â 24.4% y llynedd).
• 6,948 o ymgeiswyr gafodd Ddiploma Uwch Bagloriaeth Cymru o’u cymharu â 4,360 yn 2010. Dyma’r nifer mwyaf hyd yma ar gyfer y cymhwyster hwn.
• Cynyddodd canran y rhai lwyddodd yn y DG ychydig (97.8% eleni, o’i chymharu â 97.6% y llynedd).
• Mae ystadegau cynhwysfawr am y canlyniadau ym mhob gwlad ar wefan Cydgyngor y Cymwysterau: www.jcq.org.uk
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet


