Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / Bydd y Ffagl Olympaidd yn mynd trwy ardal pob awdurdod lleol yng Nghymru
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Bydd y Ffagl Olympaidd yn mynd trwy ardal pob awdurdod lleol yng Nghymru

07 Tachwedd 2011

Fe gyhoeddodd Pwyllgor Trefnu Mabolgampau Olympaidd 2012 heddiw y bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cael cyfle i groesawu'r Ffagl Olympaidd yn ei ardal.

Bydd y ffagl yn cyrraedd Sir Fynwy ar 25ain Mai, yn teithio trwy'r deheubarth i'r gorllewin ac ar draws y gogledd, gan adael y Trallwng ar 30ain Mai.

Meddai'r Cyng. Dyfed Edwards (Gwynedd), Llefarydd WLGA dros Hamdden a Thwristiaeth:

“Bydd y ffaith bod y Ffagl Olympaidd yn mynd trwy ardal pob awdurdod lleol yng Nghymru yn dechrau gwych i Fabolgampau Olympaidd 2012. Dyma gyfle unigryw i gymunedau ac unigolion gydio yn yr ysbryd Olympaidd a dod at ei gilydd yn ystod y cyfnod cyn dechrau'r mabolgampau.

Bydd trefniadau croesawu'r ffagl yn dipyn o orchwyl i'r cynghorau gan y bydd rhaid cydweithio ag ysgolion, clybiau chwaraeon, cwmnïau a gwasanaethau brys i ofalu bod popeth yn mynd yn esmwyth. Dyna waith mae'r cynghorau'n falch o'i gyflawni, fodd bynnag, i ddod â'u cymunedau nhw ynghyd ar gyfer yr achlysur cyffrous yma.”

Mae map rhyngweithiol o daith y ffagl ar: www.london2012.com/olympictorchrelaymap

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet



< yn ôl