Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / Amlygu partneriaeth trwy ffair ariannu ranbarthol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Amlygu partneriaeth trwy ffair ariannu ranbarthol

29 Mehefin 2010

Mae ail ffair ariannu ranbarthol y de-orllewin ar Gae Rasys Ffos Las, dan nawdd yr awdurdodau lleol a'u partneriaid yn y trydydd sector, wedi cynnig gwybodaeth werthfawr am faterion ariannu i gylchoedd cymunedol a mudiadau gwirfoddol a rhoi cyfle i hyrwyddo'r cydweithio llwyddiannus sy'n mynd rhagddo yn y rhanbarth ers tair blynedd.

Daeth yr achlysur, a gafodd ei ariannu'n rhannol trwy Lywodraeth y Cynulliad yn rhan o Raglen Gydgyfeirio Undeb Ewrop, ar adeg briodol gan fod pryderon am ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Mae wedi ychwanegu at lwyddiant y ffair gyntaf yn 2008 trwy ddangos ymrwymiad cryf y rhanbarth i gydweithio ynglŷn â materion ariannu.

Meddai'r Cyng. John Allen-Mirehouse, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Benfro ac Aelod y Cabinet dros Adfywio a Datblygu:

“Mae pedwar awdurdod lleol y de-orllewin yn cefnogi'r ffair achos ein bod yn gwybod pa mor hanfodol yw gwaith elusennau, cylchoedd cymunedol a mudiadau gwirfoddol ynglŷn ag adfywio economi'r rhanbarth, yn arbennig yn y sefyllfa ariannol sydd ohoni. Mae hanes da i awdurdodau lleol y de-orllewin o ran cydweithio, ac mae achlysuron fel hwn yn arbennig o bwysig achos eu bod yn dangos bod y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yn gallu dod at ei gilydd i fynd â'r maen i'r wal.

Roedd y ffair ariannu gyntaf ddwy flynedd yn ôl yn llwyddiant mawr trwy alluogi pobl o bob cwr o'r rhanbarth i fanteisio ar y cyngor a'r wybodaeth oedd ar gael ynglŷn â materion ariannu. Yn ôl yr adborth, fodd bynnag, roedd lle i'w gwella ac, eleni, roedd llawer mwy o bwyslais ar ymgysylltu'n bersonol ag unigolion a chymunedau. Daeth 1,300 o bobl y tro yma.”

Meddai Carol Green, Cyfarwyddwr Dinas a Sir Abertawe dros Wasanaethau Gwirfoddol:

“Yn ystod y ffair, roedd cyrff ariannu gwladol a rhanbarthol – yn ogystal â sawl sefydliad arall – ar gael i drafod anghenion ariannu penodol, cynnig gwybodaeth am faterion ariannu a helpu cylchoedd i fireinio eu syniadau.

Roedd y pedwar cyngor gweithredu gwirfoddol sy'n ymwneud â'r ffair yn gwybod y byddai'n gyfle gwych i ddod â'r darparwyr i gyd at ei gilydd a hybu rhwydweithio'n ffordd o wneud y gorau o adnoddau a symleiddio'r cymorth i gymunedau ac unigolion y rhanbarth. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Swyddfa Cyllid Ewrop Llywodraeth y Cynulliad am helpu i gynnal y ffair trwy Raglen Gydgyfeirio Undeb Ewrop."

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

• Bu'r Ffair Ariannu Ranbarthol ddydd Mawrth 8fed Mehefin ar Gae Rasys Ffos Las, Sir Gâr.
• Pedwar cyngor gweithredu gwirfoddol y rhanbarth gynhaliodd y ffair ar y cyd â Fforwm Partneriaeth Ranbarthol y De-orllewin. Mae'r fforwm yn rhan o drefn WLGA ac arweinyddion a phrif weithredwyr cynghorau Sir Gâr, Sir Benfro, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe yw'r aelodau.
• Y pedwar cyngor gweithredu gwirfoddol a'r pedwar cyngor sirol ariannodd y ffair gyda chymorth Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop – Rhaglen Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop ar gyfer y Gorllewin a Chymoedd y De rhwng 2007 a 2013 trwy Gymorth Technegol Tîm Gofodol Ewrop. Swyddfa Cyllid Ewrop (rhan o Lywodraeth y Cynulliad) sy'n rheoli'r Rhaglen Gydgyfeirio.


Mae rhagor o wybodaeth gan:

Lucy Sweet 029 2046 8678 neu lucy.sweet@wlga.gov.uk

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet



< yn ôl