Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / -Awdurdodau’r De Orllewin yn cydweithio i wella ansawdd a lleihau costau
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

-Awdurdodau’r De Orllewin yn cydweithio i wella ansawdd a lleihau costau

01 Ebrill 2010

Dan arweiniad Cyngor Sir Gaerfyrddin mae chwech o gynghorau De Orllewin Cymru, sef Pen-y-bont ar Ogwr, Ceredigion, Sir Benfro, Castell-nedd Port Talbot, ac Abertawe wedi cytuno i ddod i gytundeb ffurfiol mewn perthynas â datblygu “rhith” wasanaeth cyfreithiol fydd yn cael ei rannu rhwng y chwech ohonynt. Bydd y gwasanaeth newydd yn cael ei lansio ddydd Iau 1 Ebrill ac yn golygu y bydd staff y timau cyfreithiol yn y chwe awdurdod yn cydweithio’n agosach gyda’i gilydd ac yn rhannu mwy o adnoddau ac arbenigedd mewnol.

Yn ôl Meryl Gravell, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

“Mae’r prosiect rhannu Gwasanaethau Cyfreithiol yn Ne Orllewin Cymru yn enghraifft ragorol o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy gydweithio rhwng awdurdodau. Mae’r chwe chyngor sy’n gyfrannog, gyda chefnogaeth gan Brifysgol Abertawe, WLGA a Gwerth Cymru o Lywodraeth y Cynulliad, wedi llwyddo i greu prosiect sydd wedi codi momentwm ac ennill cefnogaeth staff.”

“Mae cynghorau yn wynebu heriau ariannol dybryd ac mae’r prosiect hwn, hyd yn oed yn ei gyfnod ymchwil a dadansoddi, wedi dangos ei werth. Mae wedi gwneud arbedion o £40,000 yn 2010/2011, gyda photensial o wneud arbedion eraill yn y dyfodol. Mae gan y prosiect botensial go iawn i wella ansawdd cyffredinol y gwasanaeth, sicrhau arbedion a lleihau’r gost gyffredinol i’r pwrs cyhoeddus.”

Meddai Jane Hutt, Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad dros Fusnes a Chyllideb

“Dyma’r union fath o brosiect yr ydym yn ceisio ei annog ac rwy'n falch bod y gefnogaeth a ddarparwyd gennym trwy Gronfa Welliant Creu’r Cysylltiadau wedi helpu i sicrhau canlyniad llwyddiannus., gan rannu’r gwersi a ddysgwyd er mwyn helpu i fabwysiadu’r dull hwn o weithredu yn fwy eang. Rwy'n sylwi ar y diddordeb sy’n cael ei ddangos gan lywodraeth leol mewn rhannau eraill o Gymru”.

Dyma oedd gan Chris Holley, Arweinydd Dinas a Sir Abertawe, i’w ddweud am Fforwm Partneriaeth Rhanbarthol diweddaraf De Orllewin Cymru:

“Mae’r prosiect Rhannu Gwasanaethau Cyfreithiol eisoes wedi dangos ei werth o ran arbedion cost. Ond y mae hefyd yn hynod werthfawr o ran rhannu arbenigedd. Trwy gysylltiad staff â’r prosiect mae nifer o flaengareddau newydd wedi cael eu sefydlu i alluogi staff i ddefnyddio a rhannu’r wybodaeth a’r arbenigedd sydd eisoes yn bodoli yn y chwe awdurdod cyfrannog. Mae’r blaengareddau hyn yn cynnwys cynnal grwpiau diddordeb yn dymhorol, trefn ranbarthol o hyfforddi, a chreu fforwm ar y cyd ar y we i rannu gwybodaeth a hysbysrwydd.”


Diwedd

Nodiadau i olygyddion

Fforwm Partneriaeth Ranbarthol y De-orllewin

Mae 22 awdurdod lleol yng Nghymru, ac maen nhw'n dod ynghyd ar gyfer cydweithio trwy 4 bwrdd rhanbarthol. Mae Fforwm Partneriaeth Ranbarthol y De-orllewin yn dod â Chyngor Sir Gâr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Benfro a Dinas a Sir Abertawe at ei gilydd.


Mae rhagor o wybodaeth gan:

Lucy Sweet: 029 2046 8678 neu lucy.sweet@wlga.gov.uk

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet



< yn ôl