Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Yr amgylchedd ac Adfywio / Newid hinsoddol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Newid hinsoddol

Mae pawb yn cydnabod bellach mai'r newid hinsoddol yw'r broblem amgylcheddol fwyaf ar hyn o bryd a bod y newid hwnnw wrth wraidd y tywydd eithafol a welwn ni mwyfwy dros y byd. Mae peth newid wedi digwydd yn barod a bydd yn parhau am fod llawer o nwyon tŷ gwydr yn yr awyr. Bydd modd lleddfu effeithiau'r newid, fodd bynnag, ar yr amod ein bod yn gwneud pob ymdrech i ollwng llai o nwyddau.

Mae'n amlwg y bydd angen i gymunedau ledled Cymru ymaddasu yn ôl effeithiau'r newid yn yr hinsawdd boed ragor o lifogydd, gwres anarferol neu sychder. Diben prosiect Newid Hinsawdd Newid Lleoedd yw cydweithio â phartneriaid o bwys a phedwar awdurdod lleol i bennu ffordd o wneud hynny. Mae bwriad i gyhoeddi adroddiad am y cynnydd ddechrau 2011.

Y DG yw'r wladwriaeth gyntaf i bennu cyllidebau carbon mae gofyn statudol i gadw atyn nhw fel y bydd llai o nwyon, ond mae'r Cynulliad o'r farn bod lle i wneud rhagor. Mae Cytundeb Cymru'n Un am inni gwtogi ar nwyon o 3% y flwyddyn o 2011 ymlaen. Mae rhai awdurdodau wedi rhoi targedau mwy uchelgeisiol fyth ac mae eraill wedi llofnodi Ymrwymiad 10/10.

Mae strategaeth Llywodraeth y Cynulliad am y newid hinsoddol yn dweud sut byddwn ni'n cyflawni'r targedau ymestynnol hynny. Mae'n nodi bod awdurdodau lleol yn hollbwysig ynglŷn â chymryd camau i leddfu'r newid hinsoddol gan eu bod yn rhoi cyfeiriad ac arweiniad i'w bröydd – yn bennaf, trwy'r strategaethau cymunedol a'r pwerau i hybu lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Y Comisiwn dros Newid Hinsoddol yw'r prif gorff sy'n cynghori Llywodraeth y Cynulliad am y materion hyn. Mae wedi sefydlu is-gylchoedd i ystyried pynciau megis defnyddio tir, amaeth, busnes ac ymaddasu. Mae Llefarydd WLGA dros Faterion yr Amgylchedd, y Cyng. Aled Roberts, yn cynrychioli byd llywodraeth leol yno.

Mae'r Ymrwymiad i Gwtogi ar Garbon (Ynni Effeithlon) yn gynllun sydd ar waith yng Nghymru a Lloegr i helpu i gwtogi ar y carbon rydyn ni'n ei ddefnyddio. Bydd y rhan fwyaf o awdurdodau Cymru yn cymryd rhan yn y cynllun ynghyd â thros 5,000 o sefydliadau eraill. Mae sawl un yn cymryd camau i ofalu bod adeiladau, cerbydau a gwasanaethau'n fwy effeithlon gyda chymorth partneriaid megis Ymddiriedolaeth Carbon ac Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

Fis Ebrill 2006, llofnododd y 22 awdurdod lleol ac awdurdodau'r tri pharc cenedlaethol, y tri gwasanaeth tân ac achub a'r pedwar heddlu Ymrwymiad Cymru ynglŷn â'r Newid Hinsoddol. Llunion ni'r ymrwymiad hwn ar y cyd â Llywodraeth y Cynulliad. Trwy ei lofnodi, mae'r awdurdodau wedi ymrwymo i ymaddasu yn ôl effeithiau'r newid hinsoddol a chwtogi ar y nwyon tŷ gwydr maen nhw'n eu creu. Cymru yw'r unig wlad yn Undeb Ewrop lle mae pob un o'r awdurdodau lleol wedi llofnodi ymrwymiad i fynd i'r afael â'r newid hinsoddol.

Nid geiriau ond gweithredoedd

I helpu byd llywodraeth leol i fynd i'r afael â'r newid hinsoddol yn ôl ei ymrwymiad, mae WLGA wedi cyhoeddi dogfen o'r enw 'Nid geiriau ond gweithredoedd'. Nid rhaglen gynhwysfawr am sut mae lleddfu'r newid hinsoddol mo hon, ond mae'n pennu chwech agwedd allweddol:

  • Ymrwymiad lefel uchel:

    Mae'r newid hinsoddol yn fater sy'n mynnu ymrwymiad lefel uchel ac arweiniad cryf. Dylai arweinyddion, prif weithredwyr ac uwch reolwyr yr awdurdodau lleol fod ar flaen y gad ynglŷn ag unrhyw gamau i leddfu'r newid hinsoddol.
  • Arwain trwy esiampl:

    Mae'r awdurdodau lleol mewn sefyllfa ddelfrydol i arwain trwy esiampl a dangos i'r gymuned i gyd – cwmnïau a phreswylwyr fel ei gilydd – beth mae'n bosibl ei wneud i leddfu'r newid hinsoddol.
  • Gwario'n ddoeth:

    Mae caffael yn faes lle gall awdurdodau lleol roi arweiniad trwy helpu i greu galw am nwyddau mwy cynaladwy, datblygu economïau lleol ac annog cyflenwyr i wella. Daw tipyn o rym trwy drefn brynu crynswth, ac mae'r awdurdodau'n defnyddio'r grym hwnnw i hyrwyddo datblygu cynaladwy.
  • Annog a helpu pobl eraill:

    Yn ogystal ag arwain trwy esiampl, mae llawer y gall awdurdodau lleol ei wneud i annog, helpu a gorfodi pobl eraill i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Gallan nhw gyflawni llawer ar y cyd â chyrff cyhoeddus eraill, hefyd.
  • Mesur y cynnydd:

    Rhaid pennu a monitro targedau uchelgeisiol i fesur y cynnydd.
  • Cymorth gwladol:

    Er bod byd llywodraeth leol mewn sefyllfa i fynd ati i leddfu'r newid hinsoddol yn ôl yr agweddau uchod, ac y dylai wneud hynny, mae llawer y gall Llywodraeth y Cynulliad ei wneud i'n helpu ni i ymaddasu yn ôl yr angen. Mae 'Nid geiriau ond gweithredoedd' yn nodi bod eisiau rhyddid ariannol, diogelwch a chymorth ar gyfer arloesi a gwneud y gorau o'r manteision.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Craig Mitchell