Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Carfan Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth WLGA / Y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol

NERSBraslun

NERS - Good PracticeMae'r Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol wedi'i ddatblygu dros y 4 blynedd diwethaf o dan nawdd Llywodraeth y Cynulliad i safoni trefniadau atgyfeirio awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol Cymru ynghylch cynnig cyfleoedd i bobl ymarfer. Mae'r cynllun yn targedu'r rhai mae perygl y byddan nhw'n dioddef â chlefydon parhaol. Mae arian ar gael tan 31ain Mawrth 2014.

Prif nodau'r cynllun

  • Cynnig cynllun atgyfeirio o safon ledled y wlad. 
  • Cynyddu nifer y bobl sy'n ymarfer dros y tymor hir. 
  • Gwella iechyd y corff a'r meddwl. 
  • Pennu pa mor effeithiol yw'r fenter ynglŷn â chynyddu nifer y rhai sy'n ymarfer a gwella eu hiechyd.

Safonau ansawdd

Mae pob protocol yn y cynllun yn adlewyrchu'r arferion gorau sy'n hysbys ar hyn o bryd ac yn cyd-fynd â'r canllawiau gwladol presennol. Mae gan bob hyfforddwr sy'n ymwneud â'r cynllun Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (lefel 3) yn ogystal â chymhwyster sy'n cyd-fynd â safon alwedigaethol D449 (gweithio gyda chleifion sydd wedi'u hatgyfeirio) ac yswiriant priodol. Mae pob protocol wedi'i gymeradwyo o ran moeseg ac ymgynghoron ni â Changen Cymru Cymdeithas Feddygol Prydain wrth baratoi'r cynllun.

Gwerthuso

Sefydliad Prifysgol Caerdydd dros Faterion Cymdeithasol, Iechyd a Moeseg werthusodd y cynllun ar y cyd ag Ysgol Glinigol y Gogledd a Sefydliad Prifysgol Bangor dros Ymchwil Feddygol a Gofal Cymdeithasol. Y Dr. Simon Murphy oedd y prif ymchwiliwr. Cafodd eu hastudiaeth ei hadolygu gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Canolfan Amlbwrpas Dyffryn Tafwys (cyfeirnod: 06/MRE12/85) ac fe gafodd ei chymeradwyo o ran moeseg ar 8fed Chwefror 2007.

Hanfod yr astudiaeth oedd cymharu sefyllfa cleifion oedd wedi'u hatgyfeirio i gymryd rhan mewn rhaglen ymarfer â rhai oedd dan ofal meddyg teulu gan bennu lefel yr ymarfer, yr iselder a'r pryder yn eu plith ar ôl 12 mis. Ystyriodd pa mor gost-effeithiol oedd y cynllun, hefyd.

Mae holl ganlyniadau'r gwerthuso ar: http://wales.gov.uk/about/aboutresearch/social/latestresearch/exercise/?lang=en

Prif ganfyddiadau'r gwerthuso:

  • Roedd pawb gymerodd ran yn y cynllun yn ymwneud â mwy o weithgareddau corfforol na'r rhai oedd dan ofal meddyg teulu yn unig, yn arbennig y cleifion oedd wedi'u hatgyfeirio o achos ffactorau peryglus allai arwain at glefyd y galon.
  • Roedd iselder a phryder wedi'u lleddfu yn eu plith.
  • Roedd gwerth y cynllun wedi'i gloriannu yn ôl fformiwla sy'n pennu ansawdd bywyd fesul blwyddyn. £12,111 y flwyddyn oedd y canlyniad. Mae peth arian wedi'i arbed o ran y rhai sy'n cadw at y rhaglen gyflawn (£-367 y flwyddyn).

Ers dechrau'r cynllun, mae lefel 4 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer clefydon parhaol wedi'i llunio ac, ym mis Ebrill 2008, cytunodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai'r cynllun yn cael cynnwys cleifion sy'n dioddef â chlefydon parhaol ac y byddai'n penodi cydlynydd cenedlaethol ar ei gyfer.

Penododd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) gydlynydd fis Awst 2008. Rôl y cydlynydd cenedlaethol yw monitro hynt y cynllun o ddydd i ddydd, mentora'r cydlynwyr a'r hyfforddwyr ledled Cymru a'u helpu nhw i weithio'n well, comisiynu hyfforddiant a llunio protocolau safonol ar gyfer pob clefyd parhaol yn ôl yr arferion gorau o bob cwr o'r Deyrnas Gyfunol.

Mae hyfforddiant achrededig lefel 4 wedi'i roi fel a ganlyn:

  • Hyfforddwr Cam IV – Adsefydlu cleifion y galon 
  • Hyfforddwr ynghylch clefyd anadlu 
  • Hyfforddwr Lefel 4 – Sefydlogrwydd ystumiol (atal cwympo) 
  • Gofalu am y cefn – Lefel 4 
  • Ymarfer ar ôl trawiad ar yr ymennydd (strôc) - Lefel 4 
  • Iechyd y meddwl – Lefel 4 
  • Tewdra/clefyd y siwgr/cadw trefn ar bwysau - Lefel 4

Mae protocolau safonol ar gyfer y clefydon parhaol hyn lle mae rhaglenni adsefydlu a hyfforddwyr cymwysedig.

Rhaglen

Mae'r cynllun ar waith ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol. Mae'n mynd rhagddo am 16 wythnos yn olynol pan fydd 2 sesiwn yr wythnos dan oruchwyliaeth i'r grwpiau. Bydd pob sesiwn yn para tua awr. £1.50 yw pris y sesiwn. Fel arfer, bydd y sesiynau'n cael eu cynnal mewn canolfannau hamdden neu gymunedol ac mae cyfleoedd i ymarfer yn yr awyr agored yn y rhan fwyaf o ardaloedd.

Beth yw manteision gweithgareddau corfforol?

Manteision i'r corff:

  • Bydd y galon a'r ysgyfaint yn gryfach ac yn fwy effeithlon 
  • Bydd y cyhyrau'n gryfach 
  • Bydd y cymalau'n gryfach 
  • Mae modd lleddfu clefyd yr esgyrn brau 
  • Gallech chi golli braster a phwysau diangen 
  • Efallai y byddwch chi'n gallu ymlacio a chysgu'n haws 
  • Gweithredu'n well yn y byd 
  • Teimlo'n fwy effro ac egnïol 
  • Sefyll ac eistedd yn dda 
  • Helpu i gadw pwysedd y gwaed ar lefel ddiogel 
  • Helpu i osgoi clefyd y siwgr 
  • Helpu i osgoi ceulo yn y gwaed 
  • Helpu i barhau'n annibynnol yn hytrach na bod yn ddibynnol

Manteision i'r meddwl:

Dyma rai sylwadau enghreifftiol:

  • “Rwy'n llai pryderus bellach.” 
  • “Mae rhagor o hyder a hunan-barch gyda fi.” 
  • “Mae gweithgareddau corfforol wedi fy helpu i roi'r gorau i ysmygu.” 
  • “Fe ges i dipyn o amser rhydd trwy'r sesiynau ymarfer.” 
  • “Mae fy ngwraig yn dweud fy mod yn llawer mwy hapusach.” 
  • “Rwyf i wedi ysgwyddo rhagor o gyfrifoldeb am fy iechyd.”

Manteision cymdeithasol:

Dyma rai sylwadau enghreifftiol:

  • “Fe ges i gyfle i gwrdd â phobl gyda'r un pryderon a fi.” 
  • “Rheswm da am adael y tŷ ac ymddiddori mewn rhywbeth newydd.” 
  • “Cyfle i hel ffrindiau a mwynhau sgwrsio gyda nhw.” 
  • “Rwy'n teimlo'n fwy heini a galla' i chwarae'n hirach gyda'r wyrion bellach.”

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar y cynllun, mae croeso ichi gysylltu â chydlynydd eich ardal neu anfon neges at Gydlynydd Cymru: Jeannie Wyatt-Williams

 

Mae rhagor o wybodaeth gan: Jeannie Wyatt-Williams