Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Carfan Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth WLGA / Y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol / Y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol Lleddfu poen yn rhan is y cefn
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol Lleddfu poen yn rhan is y cefn

Mae’r Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol yn rhoi cyfle i gleifion gymryd rhan mewn rhaglen ymarfer gymeradwy fydd yn eu helpu i symud yn haws a lleddfu poen yn rhan is eu cefn dan ofal hyfforddwyr arbenigol ym maes gofalu am y cefn. Mae’r cynllun yn defnyddio arferion gorau’r DG ac yn gweithredu yn ôl safonau gwladol.

Mae Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Ffitrwydd Cymru, Cymdeithas Freiniol y Ffisiotherapyddion, yr awdurdodau lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r byrddau iechyd lleol yn ymwneud â’r cynllun.

Prif nodau’r cynllun 

  • Cynnig ffordd drefnus a diogel o atgyfeirio cleifion fel y gallan nhw gymryd rhan mewn rhaglen ymarfer i leddfu poen yn rhan is y cefn. 
  • Cynnig ffordd drefnus a diogel o atgyfeirio cleifion fel y gallan nhw ymarfer yn annibynnol wedyn. 
  • Cynnig rhaglen ymarfer ddiogel ac effeithiol sy’n addas i anghenion y cleifion. 
  • Gwella’r cleifion o ran cryfder a’r gallu i sefyll a symud yn dda. 
  • Gwella gallu’r cleifion o ran gweithredu yn y byd. 
  • Cynyddu hyder y cleifion. 
  • Gwella pob claf o ran iechyd ei feddwl a’i les. 
  • Lleddfu’r ynysu cymdeithasol ymhlith cleifion. 
  • Cryfhau tuedd cleifion i gydio mewn gweithgareddau corfforol dros y tymor hir.

Safonau ansawdd

  • Mae’r cynllun yn defnyddio’r arferion gorau ac yn cyd-fynd â’r canllawiau gwladol presennol. 
  • Mae gan bob hyfforddwr sy’n ymwneud â’r cynllun Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (Lefel 3) yn ogystal â chymhwyster yn unol â safon alwedigaethol D449 (gweithio gyda chleifion sydd wedi’u hatgyfeirio) a chymhwyster lefel 4 ‘Hyfforddwr Gofalu am y Cefn’ mae mudiad Skills Active yn ei gydnabod. Ar ben hynny, maen nhw i gyd wedi bod mewn gweithdy ychwanegol am gynnal dosbarthiadau ymarfer asgwrn y cefn. 
  • Mae pob hyfforddwr wedi’i yswirio’n briodol a’i gofrestru’n arbenigwr ymarfer.

Mae’r cynllun ar gyfer cleifion mae meddyg teulu wedi’u trin am boen cymedrol yng nghanol y cefn a/neu gleifion mae'u cyflyrau’n fwy cymhleth sydd wedi’u hatgyfeirio ar ôl ffisiotherapi.