Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Carfan Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth WLGA / Y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol / Y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol Ymarfer ar ôl trawiad ar yr ymennydd (s
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol Ymarfer ar ôl trawiad ar yr ymennydd (s

Trawiad ar yr ymennydd sy’n achosi’r rhan fwyaf o anableddau cymhleth (Adamson ac ati 2004) ac mae rôl ymarfer ynglŷn a gofalu am y rhai sydd wedi cael trawiad o’r fath wedi’i chydnabod yn y canllawiau gyhoeddodd Coleg Brenhinol y Meddygon am y pwnc yn 2008. Dyma’r argymhelliad yn y bennod am ailsefydlu:

‘Ar ôl trawiad ar yr ymennydd, dylai pob claf gymryd rhan mewn hyfforddiant aerobig oni bai bod rhesymau eraill dros beidio â gwneud hynny.’

Mae’r Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol yn rhoi cyfle i gleifion gymryd rhan mewn rhaglen ymarfer sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth gerbron Adolygiad Cochrane o hyfforddiant ffitrwydd i’r rhai gafodd drawiad ar yr ymennydd (Saunders ac ati 2009) a’r arbrawf (Mead ac ati 2007) i wella symudedd ac ansawdd bywydau’r cleifion. Level 4 Specialist Exercise and Fitness Training after Stroke Course lywiodd yr arbrawf hwnnw oedd wedi’i lunio gan Brifysgol y Frenhines Fererid a Phrifysgol Caeredin, a’i weinyddu gan Later Life Training.

Mae Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Later Life Training, Cymdeithas Freiniol y Ffisiotherapyddion, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r byrddau iechyd lleol yn ymwneud â’r cynllun.

Prif nodau’r cynllun

  • Cynnig ffordd drefnus a diogel o atgyfeirio cleifion sydd wedi cael trawiad ar yr ymennydd fel y gallan nhw gymryd rhan mewn rhaglenni ymarfer corfforol. 
  • Cynnig ffordd drefnus a diogel o atgyfeirio cleifion fel y gallan nhw ymarfer yn annibynnol wedyn. 
  • Cynnig rhaglenni ymarfer diogel ac effeithiol sy’n diwallu anghenion cleifion. 
  • Gwella’r cleifion o ran cyflwr y galon, cryfder a’r gallu i sefyll a symud yn dda. 
  • Gwella gallu’r cleifion o ran gweithredu yn y byd. 
  • Cynyddu hyder y cleifion. 
  • Gwella pob claf o ran iechyd ei feddwl a’i les. 
  • Lleddfu’r ynysu cymdeithasol ymhlith cleifion. 
  • Cryfhau tuedd cleifion i gydio mewn gweithgareddau corfforol dros y tymor hir.

Safonau ansawdd

  • Mae’r cynllun yn defnyddio’r arferion gorau ac yn cyd-fynd â’r canllawiau gwladol presennol. 
  • Mae gan bob hyfforddwr sy’n ymwneud â’r cynllun Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (Lefel 4) yn ogystal â chymhwyster yn unol â safon alwedigaethol D449 (gweithio gyda chleifion sydd wedi’u hatgyfeirio) a chymhwyster lefel 4 ‘Hyfforddwr Ymarfer ar ôl Trawiad ar yr Ymennydd’ mae mudiad Skills Active yn ei gydnabod. 
  • Mae pob hyfforddwr wedi’i yswirio’n briodol a’i gofrestru’n arbenigwr ymarfer.

Mae’r cynllun ar gyfer y rhai sydd wedi cael trawiad ar yr ymennydd ac sydd wedi’u hasesu gan arbenigwr iechyd i ofalu eu bod yn addas i gynllun cymunedol. O bosibl, bydd cleifion o’r fath yn cael triniaeth o hyd yn ogystal â chymryd rhan yn y rhaglen ymarfer. Os felly, rhaid nodi hynny ar y ffurflen atgyfeirio.