Mae Llywodraeth Leol wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth newydd Cymru i gyflawni:
- Mwy o fuddsoddiad yn y cyflenwad o dai fforddiadwy newydd i fynd i’r afael â’r diffyg cyflenwad y mae’r farchnad yn ei gyflwyno ar hyn o bryd gan gydnabod rôl arweinyddiaeth strategol awdurdodau lleol wrth iddynt weithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, datblygwyr a benthycwyr i archwilio modelau newydd o gyflwyno ac ariannu
- Diwedd i’r taliad rhent a delir gan denantiaid y cyngor yng Nghymru i’r Trysorlys
- Gwelliannau yn ansawdd eiddo rhent preifat presennol trwy gymorth gwell a rheoleiddio priodol, a chynnydd yn y cyflenwad trwy ddenu buddsoddiad sefydliadol i’r sector
- Defnydd mwy arloesol o’r cyllid sydd ar gael i gefnogi gweithrediad llwyddiannus parhaus Adnewyddu Tai
- Cydnabod yr angen cynyddol i addasu tai ac i gael Grantiau Cyfleusterau Anabl sy’n cefnogi byw’n annibynnol ac yn lleihau’r pwysau ar y GIG
- Integreiddio tai, gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd yn well wrth fynd i’r afael ag anghenion tai pobl hŷn
- Adnoddau digonol i gyd-fynd ag unrhyw newid mewn deddfwriaeth digartrefedd
- Gweithredu argymhellion yr Adolygiad Cefnogi Pobl i wella effeithiolrwydd gwasanaethau a’r canlyniadau a gyflawnir.
Cefndir:
Mae tai fforddiadwy o ansawdd da yn hanfodol i iechyd a lles unigolion a chymunedau ac maent yn allweddol i’n gallu i fynd i’r afael â’r ystod eang o flaenoriaethau yn cynnwys cynhwysiant cymdeithasol, ffyniant economaidd, cyflawniad addysgol, cyfiawnder cymdeithasol, lleihau ôl troed carbon a diogelwch cymunedol.
Mae’r argyfwng yng nghyflenwad tai yn parhau ac wedi gwaethygu ers cwymp y marchnadoedd bancio a chyllid yn 2008. Mae cyfraddau adeiladu a chymeradwyo morgeisi yn parhau i fod yn gyfran fach iawn o’r hyn oeddent ac mae digartrefedd yn cynyddu’n barhaus. Bydd y buddsoddiad mewn tai cymdeithasol yn cael ei gwtogi’n sylweddol yn dilyn y toriadau mewn gwariant cyfalaf.
Yn y cyfnod heriol hwn, mae gan lywodraeth leol, gyda’i rôl o ran tai strategol, ran hanfodol i’w chwarae yn mynd i’r afael ag anghenion a dyheadau tai. Mae’n rhaid i lywodraeth leol a Llywodraeth Cymru weithio gyda rhanddeiliaid ar draws y farchnad dai, p’un a ydynt yn Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, yn ddatblygwyr preifat, yn landlordiaid preifat, yn fuddsoddwyr ac yn fenthycwyr er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn. Mae’r rhain yn cynnwys her gynyddol o ran tai ar gyfer pobl hŷn lle mae angen sicrhau bod dinasyddion hŷn yn byw mewn cysur a diogelwch ac mor annibynnol ag y mae eu hiechyd yn caniatáu.
Mae llawer o dystiolaeth y bydd angen mwy o gartrefi ar Gymru o ystyried tueddiadau demograffig hirdymor. Yr her yw gweithio tuag at hynny er bod amodau’r farchnad yn mynd i’r cyfeiriad arall. Bydd llywodraeth leol yn ystyried, gyda Llywodraeth Cymru, y potensial i lywodraeth leol ddefnyddio ei hadnoddau i wella mynediad i dai fforddiadwy.
Mae angen dybryd am fuddsoddiad ychwanegol i gynyddu’r cyflenwad tai newydd fforddiadwy, ond y gwirionedd yw y bydd yn rhai bodloni’r rhan helaeth o’r angen am dai trwy ddefnyddio anheddau sydd eisoes yn bodoli. Mae’n rhaid i ni felly wneud y defnydd gorau o dai ym mhob sector o’r farchnad i ddarparu cartrefi fforddiadwy a chynaliadwy o ansawdd uchel mewn cymunedau y mae pobl eisiau byw ynddynt.
Mae gan sector preifat a rhent canolraddol wedi ei reoli’n dda o bosibl rôl hanfodol i’w chwarae yn atal digartrefedd a bodloni’r angen am dai yng Nghymru. Dim ond 12% o gartrefi y mae’r sector hwn yn ei ddarparu yng Nghymru ar hyn o bryd ond gyda buddsoddiad sefydliadol ychwanegol, fframwaith rheoliadol priodol a chymorth i landlordiaid, gallai’r sector chwarae rhan gynyddol ac arwyddocaol.
Mae’r Strategaeth Dai Genedlaethol (2009), Adolygiad Essex o Dai Fforddiadwy (2008) a’r Adolygiad Cefnogi Pobl (2010) yn rhoi cyfle
gwerthfawr i gael effaith gwirioneddol ar yr her newydd a sylweddol yn ymwneud â thai sydd o’n blaenau. Bydd gallu llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill i achub ar y cyfle hwn a gweithio’n strategol ac yn arloesol yn hanfodol i’n gallu i gael effaith gwirioneddol ar dai yng Nghymru.
Gellid cyflawni’r holl amcanion hyn yn haws pe byddai Llywodraeth y DU yn cytuno i ddod â’r trefniant i drosglwyddo cyfran y rhent a delir gan denantiaid y cyngor i’r Trysorlys i ben. Ni ellir cyfiawnhau hyn o gwbl, a bydd llywodraeth leol Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i amlygu’r camwedd hwn a gofyn i Lywodraeth y DU weithredu.


