Ar ôl cyfnod hir ar y gweill, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad ei Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru)– un o'r mesurau hiraf a manylaf fu gerbron y Cynulliad hyd yma – fis Gorffennaf 2010. Mae'r mesur wedi'i seilio ar nifer o bolisïau a phrosesau ymgynghori megis 'Cyfrifoldeb ar y Cyd' (2007), 'At Ein Gwasanaeth?' (2009), Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Llywodraeth Leol 2009 a'r Ymgynghori am Strwythurau Gwleidyddol a Chraffu (2009). Mae'r mesur yn ymwneud ag amrywiaeth helaeth o faterion, gan gynnwys:
- Pwerau/dyletswyddau ynglŷn â hybu democratiaeth leol ac annog pobl i gymryd rhan ym myd llywodraeth leol
- Newid strwythurau gweithredol a threfniadau trosolwg a chraffu
- Ffyrdd arfaethedig o ddatblygu, talu a chynorthwyo cynghorwyr
- Pwerau/dyletswyddau ynglŷn â datblygu rôl cynghorau cymunedol Cymru, gan gynnwys gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol
- Gadael i weinidogion gyhoeddi canllawiau statudol am gydweithio ymhlith awdurdodau lleol.
Byddwn ni'n diweddaru'r rhan hon o'r wefan yn ystod 2010-11 i roi'r diweddaraf am hynt y mesur trwy'r Cynulliad gan gynnwys dogfennau hysbysu, adroddiadau a thystiolaeth.
- Mesur ‘Llywodraeth Leol’ Cymru 2011 a gafodd sêl bendith y Frenhines ar 10fed Mai 2011
- Papur hysbysu WLGA at Aelodau’r Cynulliad – Mesur ‘Llywodraeth Leol’ – Mawrth 2011
- Llythyr WLGA at Carl Sargeant ynghylch newid y mesur – 1af Mawrth 2011
- Papur hysbysu WLGA at Aelodau’r Cynulliad – Mesur ‘Llywodraeth Leol’ – Ionawr 2011
- Llythyr i Bwyllgor Deddfwriaethol 3 – 4ydd Tachwedd 2010
- Tystiolaeth ychwanegol WLGA i Bwyllgor Deddfwriaethol 3 – 4ydd Tachwedd 2010
- Tystiolaeth WLGA i Bwyllgor Deddfwriaethol 3 – Medi 2010
- Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru) – Gorffennaf 2010
- Ymateb WLGA i Broses Ymgynghori Llywodraeth y Cynulliad am Strwythurau Gwleidyddol a Chraffu – Mawrth 2010
- Ymgynghori Llywodraeth y Cynulliad am Strwythurau Gwleidyddol a Chraffu – Rhagfyr 2009
- Ymateb WLGA i 'At Ein Gwasanaeth?' (Panel Arbenigol Comisiwn y Cynghorwyr) – Tachwedd 2009
- Tystiolaeth WLGA i Bwyllgor Dethol Materion Cymru (Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Llywodraeth Leol) – Hydref 2009
- Tystiolaeth WLGA i Bwyllgor Deddfu'r Cynulliad (Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Llywodraeth Leol) – Hydref 2009
- 'At Ein Gwasanaeth?' - Adroddiad Panel Arbenigol Comisiwn Cynghorwyr Cymru – Awst 2009
- Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Llywodraeth Leol) 2009 – Gorffennaf 2009
Mae rhagor o wybodaeth gan: Daniel Hurford


