Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Yr amgylchedd ac Adfywio / Adfywio / Menter gymdeithasol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Menter gymdeithasol

Mae'r economi cymdeithasol yn ymwneud ag amryw fudiadau megis mentrau cymdeithasol a chymunedol, undebau credyd, elusennau a chydweithredfeydd.

Mae byd llywodraeth leol yn helpu i ddatblygu mentrau cymdeithasol am eu bod yn gallu gwella lles economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cymunedau, yn arbennig:

• Gwella gwasanaethau mewn meysydd lle nad yw'r sectorau preifat a chyhoeddus yn eu cynnig.
• Cynnig swyddi i bobl sy'n ei chael yn anodd dod o hyd i waith.
• Rhoi cerbydau ar gael i'w defnyddio yn y gymuned.
• Cynnig nwyddau a gwasanaethau i awdurdodau lleol.
• Cynnal gweithgareddau adfywio.

Yn yr economi cymdeithasol bellach, mae mwy a mwy o fudiadau'n cynnig gwasanaethau mewn meysydd megis gofal cymdeithasol, ailgylchu a gofal plant.

Mae WLGA wedi helpu Llywodraeth y Cynulliad i lunio Cynllun Gweithredol y Mentrau Cymdeithasol yn ogystal â chydweithio â Chymdeithas yr Ymddiriedolaethau Datblygu i annog awdurdodau lleol i brynu rhagor trwy fentrau cymdeithasol. Dyma rai o brif bwyntiau'r cynllun gweithredu gyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad fis Chwefror 2009:

• corff newydd i hybu mentrau cymdeithasol – Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru;
• cylch newydd i gynghori gweinidogion am fentrau cymdeithasol;
• cronfa newydd ar gyfer trosglwyddo asedion cymunedol.

Linciau a dogfennau perthnasol

Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru 2009
Canolfan Gydweithredol Cymru
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lowri Gwilym

Cyhoeddiadau perthynol