Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Gwella a llywodraethu / Cynorthwyo a datblygu cynghorwyr / Strategaeth Mentora'r Cynghorwyr
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Strategaeth Mentora'r Cynghorwyr

Mae rôl cynghorydd yn un gymhleth ac ymestynnol. Gall pob cynghorydd, boed newydd neu brofiadol, elwa ar gymorth a chyfleoedd i ddatblygu wrth ymateb i sefyllfaoedd anghyfarwydd neu anodd. Mae'r awdurdodau'n cynnal amryw weithgareddau cynorthwyo a datblygu ar gyfer eu cynghorwyr ond mae rhai anghenion personol ac arbenigol na all gweithgareddau o'r fath eu diwallu. Mae mentora yn ffordd arall o ddiwallu'r anghenion hynny weithiau ac mae'n dod yn fwyfwy poblogaidd yn y DG fel mae cyrff ac unigolion yn gweld y manteision.

Mae cynghorwyr wedi'u mentora eu hunain yn anffurfiol ers blynyddoedd, gyda chymorth swyddogion neu gylchoedd gwleidyddol, weithiau. Mae rhai cynghorwyr wedi manteisio ar yr hyfforddiant a roes y Gymdeithas ar y cyd ag Uned Gwybodaeth Llywodraeth Leol (LGIU) yn 2003 a 2007 i feithrin eu medrau mentora.

Mae cynghorwyr ledled Cymru wedi mynegi diddordeb mewn mentora neu fod o dan adain mentor. Felly, yn rhan o Strategaeth Datblygu'r Cynghorwyr, mae'r Gymdeithas wedi ymrwymo i helpu'r awdurdodau a'u cynghorwyr i'r perwyl yma.

Beth yw mentora?

Mae'n berthynas gyfrinachol lle mae rhywun yn gweithio gyda mentor mewn sefyllfaoedd lle mae angen ei gynorthwyo neu'i ddatblygu. Y sawl sy'n cael ei fentora fydd yn pennu'r agenda ac yn ysgwyddo cyfrifoldeb am ddysgu drwy gydol y berthynas. Bydd y mentor yn ei helpu i ddysgu trwy ofyn cwestiynau a rhannu ei brofiad heb fod yn rhy gyfarwyddol, gan ei alluogi – trwy drafod materion perthnasol – i feithrin gwybodaeth newydd neu ddyfeisio ei atebion ei hun i sefyllfaoedd ymestynnol.

Dyma rai enghreifftiau o'r modd gallai mentora fod o gymorth:

  • cynghorydd newydd wrthi'n cael ei draed tano – dysgu sut mae rheoli amser/gorchwylion a deall perthynas y gwleidyddion â'r swyddogion; 
  • cynghorydd profiadol sy'n ysgwyddo rôl newydd megis arweinydd, cadeirydd, aelod gweithredol neu hyrwyddwr; 
  • wrth wynebu her wleidyddol, cymunedol neu weithredol; 
  • pan fo angen meithrin medrau newydd megis ymgysylltu â'r gymuned neu'r cyfryngau; 
  •  wrth ystyried newid rôl neu ddatblygu gyrfa wleidyddol.

Dull mentora ar gyfer Cymru

Rydyn ni'n bwriadu cydweithio â chynghorwyr, swyddogion (trwy Rwydwaith Swyddogion Cynorthwyo'r Cynghorwyr) a phleidiau gwleidyddol Cymru i greu carfan o gynghorwyr wedi'u hyfforddi ynglŷn â medrau mentora. Bydd modd iddyn nhw fentora cynghorwyr yn eu hawdurdodau eu hunain – naill ai'n anffurfiol neu'n rhan o drefniadau ffurfiol gyda chymorth swyddogion – neu mewn awdurdodau eraill trwy broses y bydd y Gymdeithas yn ei hwyluso. Ein nod yw penodi digon o fentoriaid erbyn gwanwyn 2007 i helpu'r cynghorwyr fydd yn cael eu hethol yn etholiadau lleol 2008, ar ôl eu rhaglen gynefino.

I wneud yn siwr bod gan y mentoriaid y medrau priodol, byddan nhw'n cael hyfforddiant am fedrau a dulliau mentora, protocol perthynas fentora megis cyfrinachedd a chyngor nad yw'n gyfarwyddol, a sut mae gwneud y gorau o'r berthynas honno.

Mae canllawiau i gynghorwyr a hoffai fentora ar gael yma: (LINK TO GUIDANCE FOR MEMBER MENTORS DOC. CYM)

I gael rhagor o wybodaeth neu drefnu hyfforddiant yn eich ardal, cysylltwch â sarah.titcombe@wlga.gov.uk

Mae rhagor o wybodaeth gan: Sarah Titcombe