Mae 22 awdurdod lleol Cymru yn cael y rhan fwyaf o'u harian ar ffurf grant trwy Lywodraeth y Cynulliad (Grant Cynnal y Refeniw). Gan nad yw'r arian hwnnw wedi'i gorlannu i ddibenion penodol, mae'r awdurdodau lleol yn cael penderfynu sut dylen nhw ei wario yn ôl eu hanghenion a'u blaenoriaethau nhw. Maen nhw'n cael peth arian cyfalaf sydd wedi'i gorlannu hefyd, yn ogystal â rhai grantiau cyllid a chyfalaf mae rhaid eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau penodol.
Mae'r awdurdodau lleol yn cael peth incwm trwy dreth fusnes (treth wladol sy'n cael ei chasglu'n lleol) a threth y cyngor hefyd, yn ogystal â thrwy ffïoedd, taliadau a buddsoddiadau.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Mari Thomas


