Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Yr amgylchedd ac Adfywio / Fframwaith Datblygu Cynaladwy / Materion allweddol i fyd llywodraeth leol o ran datblygu cynaladwy
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Materion allweddol i fyd llywodraeth leol o ran datblygu cynaladwy

Datblygu cynaladwy a chaffael

Mae sector cyhoeddus Cymru yn gwario hyd at £4 biliwn ar nwyddau a gwasanaethau i'r rhai sy'n byw yma ac yn ymweld â'r wlad bob blwyddyn. Mae modd defnyddio'r grym hwnnw i hyrwyddo datblygu cynaladwy trwy:

  • caffael yn ôl egwyddorion datblygu cynaladwy a manteisio ar rym y sector cyhoeddus i hwyluso penderfyniadau gwell dros y tymor hir a manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol;
  • hyrwyddo rhaglen hyfforddiant a chymorth ym maes datblygu cynaladwy, darbwyllo cynifer o bobl ag y bo modd i gymryd rhan ynddi a defnyddio fframweithiau asesu arferion caffael a'r risgiau i wasanaethau a nwyddau yng nghyd-destun datblygu cynaladwy i gadw golwg ar y cynnydd;
  • gofalu ei bod yn haws i gwmnïau lleol ennill cytundebau'r sector cyhoeddus a'u helpu trwy gynllun gweithredu tasglu'r cymorth i fyd busnes;
  • annog pawb i gadw materion cymdeithasol mewn cof trwy brosiectau megis maetheg, manteision cymunedol a masnach deg;
  • annog pawb i gadw materion amgylcheddol mewn cof trwy brosiectau i ddefnyddio llai ac arbed adnoddau.

Mae rhagor am gaffael cynaladwy yma

Cynnwys datblygu cynaladwy mewn cytundebau ar gyfer bwyd

Ymrwymo i arferion cynaladwy ynghylch prynu bwyd: Cyngor Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd yn cydnabod rôl allweddol caffael ynglŷn â hyrwyddo, hwyluso a defnyddio egwyddorion sylfaenol ei bolisi ar gyfer datblygu cynaladwy. Dyma ddiben yr ymrwymiad hwn:

  • Cynnwys datblygu cynaladwy yng nghytundebau Cyngor Caerdydd ar gyfer bwyd;
  • Hyrwyddo cydweithio rhwng Cyngor Caerdydd a chyrff cyhoeddus, mudiadau annibynnol a chwmnïau preifat sy’n ymwneud â phrynu bwyd;
  • Gwella ansawdd a maeth y bwyd mae Cyngor Caerdydd yn ei brynu.

Tlodi ynghylch tanwydd

Mae tlodi ynghylch tanwydd yn ymwneud yn uniongyrchol â datblygu cynaladwy trwy'r modd mae'n amharu ar les cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
O fethu ag inswleiddio cartrefi'n dda ac arbed ynni, bydd effaith uniongyrchol ar:

  • yr hinsawdd a'r amgylchedd;
  • amgylchiadau ariannol unigolion a theuluoedd, yn arbennig y tlodion.

Mae tystiolaeth bod cartrefi oer a llaith yn effeithio'n uniongyrchol ar:

  • iechyd, yn arbennig iechyd plant a'r ifainc;
  • addysg – mae'n llai tebygol y bydd plant a phobl ifanc sy'n byw mewn cartrefi oer yn rhagori wrth sefyll arholiadau.

Mae WLGA wedi cydweithio â Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA) yn y maes hwn mewn perthynas â phrosiect arbrofol o'r enw 'Mae'r Gwres Ymlaen' lle defnyddiodd ddau awdurdod lleol bwyllgorau craffu i adolygu materion tlodi ynghylch tanwydd . Cliciwch yma i weld rhagor am 'Mae'r Gwres Ymlaen'.

Mae WLGA wedi cydweithio â'r asiantaeth i lunio taflen adnoddau am dlodi ynghylch tanwydd, hefyd. Cliciwch yma i ddarllen 'Tlodi ynghylch Tanwydd – Canllawiau i awdurdodau lleol'.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin