Mae dechrau etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn amser i edrych ymlaen ac ym mhob ystyr mae’r cyfnod nesaf yn cyflwyno cyfres o heriau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau lleol yng Nghymru a fydd yn gofyn am ffyrdd gwahanol o wneud busnes ac atebion gwahanol. Dros y flwyddyn flaenorol, mae gwasanaethau awdurdodau lleol wedi bod yn destun adolygiad dwys. Mae hyn yn cynnwys yr “Adolygiad Lleol, Rhanbarthol a Chenedlaethol” gan Joe Simpson, “Papur Gwyn” y Gwasanaethau Cymdeithasol ac adolygiad o’r gwasanaethau addysg gan Vivian Thomas. Mae’r rhain i gyd yn awgrymu’r ffaith amlwg bod gwasanaethau llywodraeth leol yn cael eu had-drefnu a mwy na thebyg mewn ffordd fwy radical
na’r ffocws traddodiadol ar newid strwythurol.
Yn ddiweddar mae Prif Weinidog Cymru wedi datgan beth bynnag fydd canlyniad etholiadau’r Cynulliad, gyda phwerau newydd yn deillio o refferendwm mis Mawrth, mae’n rhaid symud oddi wrth y diddordeb mewn ‘ffatri strategaeth’ i ffocws newydd ar weithredu a chanlyniadau. Mae CLlLC yn cefnogi hyn yn llawn. Mae llawer o’r toriadau y mae llywodraeth ganolog yn eu rhagweld heb gael effaith lawn eto ond bydd llywodraeth leol, fel corff cyflenwi gwasanaethau rheng flaen allweddol yng Nghymru, wrth wraidd hyn. Ein prif uchelgais yw amddiffyn ein cymunedau hyd eithaf ein gallu rhag effaith toriadau a sicrhau nad yw Cymru’n derbyn baich gwaethaf canlyniadau’r dirwasgiad fel y mae wedi gwneud yn y gorffennol.
Cafodd pwerau newydd y Cynulliad Cenedlaethol eu hyrwyddo ar y sail hon a chred CLlLC ei fod yn hanfodol pwysleisio’r fantais hon a chanolbwyntio ar feysydd lle gellir gwneud gwelliannau gwirioneddol.


