Ynghyd â gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU, mae llywodraeth leol yng Nghymru ar drothwy cyfnod o gyfyngiadau ariannol. Bydd llai o adnoddau ar gael i Gynghorau fodloni galw cynyddol am wasanaethau o ansawdd uwch. Bu canfod yr arbedion effeithlonrwydd hyn yn weithgaredd rheolaidd mewn llywodraeth leol am flynyddoedd lawer, ac mae’n amlwg mai torri’r brethyn a pheidio rhoi gormod o faich ar ysgwyddau’r trethdalwr lleol yw’r prif gymhelliant wrth geisio effeithlonni.
Mae Cynghorau’n ymdrechu’n sylweddol i:
- Gyflawni'r un faint gyda llai o adnoddau;
- Gwneud mwy gyda’r un faint o adnoddau; neu
- Wneud llawer mwy gydag ychydig yn fwy o adnoddau.
Mae WLGA yn ceisio cefnogi Cynghorau i sicrhau’r canlyniadau hyn. Gan ddeall maint yr her i effeithlonni, mae WLGA yn gweithio drwy fecanweithiau fel y Byrddau Partneriaeth Awdurdodau Lleol Rhanbarthol a chydag awdurdodau unigol i’w cynorthwyo gyda’u prosesau rheoli newid.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Mari Thomas


