Rydych chi yma: Hafan / Amdanon ni / Llywodraeth leol yng Nghymru / Lywodraethu
 

Lywodraethu

Yn sgîl datganoli, mae 5 haen i drefn democratiaeth yng Nghymru bellach. Mae cynrychiolwyr yr etholwyr yn Senedd San Steffan, Senedd Ewrop, Llywodraeth y Cynulliad, a’r cyngor unedol lleol yn ogystal â chyngor y fro neu’r dref mewn sawl ardal wledig a rhai trefol.

Mae Senedd Ewrop yn cyhoeddi cyfarwyddebau am ddeddfau a pholisïau ar gyfer gwledydd Undeb Ewrop. Mae Senedd San Steffan yn pennu deddfau sylfaenol Cymru a Lloegr. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn llunio ac yn cyhoeddi deddfau eilaidd Cymru o fewn y fframwaith deddfu hwnnw, yn cyfarwyddo’r polisïau gwladol ac yn rheoli arian y trethdalwyr yng Nghymru. Y Cynulliad sy’n goruchwylio’r gwasanaethau cyhoeddus mae’r cynghorau lleol, y cyrff statudol eraill a’r cyrff gwladol sydd dan ei nawdd yn eu cynnal.

Mae 4 o aelodau Senedd Ewrop a 40 o aelodau Senedd San Steffan yn cynrychioli ardaloedd Cymru, ac mae 60 o aelodau gan y Cynulliad. Mae 1257 o gynghorwyr yn gwasanaethu mewn 22 gyngor unedol – y ’prif gynghorau’ - ac mae 3 awdurdod parc cenedlaethol, 4 awdurdod heddlu a 3 awdurdod tân. Mae tua 8000 o gynghorwyr yn gwasanaethu yn y 750 o gynghorau tref a bro.

Mae’r Cynulliad yn noddi nifer o gyrff gwladol mae’u haelodau heb eu hethol sy’n gyfrifol am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ymhlith cyrff o’r fath mae Awdurdod Datblygu Cymru ym maes datblygu’r economi, Asiantaeth yr Amgylchedd ym maes rheoleiddio a diogelu’r amgylchedd, ELWa ym maes addysg ôl-16, a Bwrdd Croeso a Chyngor Celfyddydau Cymru ym maes ymwelwyr a materion diwylliannol. Mae’r Cynulliad yn penodi lleygwyr i wasanaethu’n aelodau anweithredol o fyrddau rheoli’r cyrff hynny. Mae cynghorwyr sy’n cynrychioli safbwynt a buddiannau’r cynghorau unedol yn aelodau o’r byrddau hynny hefyd.

O ganlyniad i ddiwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn 2003, mae 22 fwrdd lleol yn lle’r hen awdurdodau iechyd bellach. Mae'r byrddau hynny, sy’n gyfrifol am atal afiechyd a chynnal gwasanaethau iechyd sylfaenol ac eilaidd eu bröydd, yn gweithredu yn ôl yr un ffiniau daearyddol â’r cynghorau unedol. Mae cynghorwyr a swyddogion pob cyngor yn aelodau allweddol o'r byrddau iechyd lleol.

Mae trefniadau arbennig yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru i alluogi eu trigolion i gymryd rhan mewn mentrau a fydd yn gwella eu ffordd o fyw a'r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw. Dan amodau Rhaglen ‘Cymunedau yn Gyntaf’, mae partneriaethau strategol lleol tua 100 o gylchoedd etholiadol Cymru yn dod â chynrychiolwyr yr amryw fuddiannau at ei gilydd i reoli rhaglenni ariannu sy'n mynd i’r afael ag amddifadedd a datblygu gallu ac adnoddau yn y gymuned.